Ewch i’r prif gynnwys

Blog: Profiad myfyriwr

20 Rhagfyr 2024

Yn ein hail flogiad sy’n canolbwyntio ar brofiadau o wneud prosiect MSc, rydyn ni’n edrych ar brofiad myfyriwr a gwblhaodd brosiect traethawd hir ym myd diwydiant drwy law’r Academi Gwyddor Data (DSA). Rhoddodd Richard Or, a fu’n gweithio ar brosiect traethawd hir MSc ym maes data gyda Empirisys, Cwmni Gwyddor Data o Gaerdydd, yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23, ei farn a’i arbenigedd inni:

Dewis y Prosiect a’r Manylion

Prif gymhelliant Richard dros wneud un o draethodau hir yr Academi oedd ennill profiad ymarferol yn y diwydiant cyn graddio. Hwylusodd yr Academi y cyfle hwn trwy ei bartneriaethau gydag arweinwyr diwydiant. Dewisodd Richard, sydd â diddordeb mawr mewn Dysgu Peirianyddol, yn enwedig Prosesau Iaith Naturiol (NLP), bwnc traethawd hir a gynigiodd Empirisys.

Nod ei brosiect oedd manteisio ar algorithmau dysgu peirianyddol i ddod o hyd i batrymau o nifer fawr o adroddiadau damwain a chanfod gwraidd y problemau. Nod y dull hwn oedd peidio ag adolygu pob adroddiad â llaw, gan roi gwybodaeth werthfawr at ddibenion adrodd ar ddamweiniau a’u dadansoddi yn y dyfodol.

Profiad o’r Prosiect

Wrth edrych yn ôl ar ei brofiad, disgrifiodd Richard ei draethawd hir MSc yn un "gwych" a'i gymharu ag interniaeth gan i Empirisys ei wahodd i weithio yn eu swyddfa. Oherwydd hyn roedd e’n gallu cydweithio ag arbenigwyr yn y diwydiant, gan roi profiad cyfoethocach iddo o weithio ym myd diwydiant byd go iawn.

Cafodd gefnogaeth ragorol gan ei oruchwyliwr yn y cwmni, sydd yn wyddonydd data profiadol, ac roedd hyn yn hynod o bwysig pan gafodd Richard broblemau gydag algorithm dysgu peirianyddol.

Oherwydd y gefnogaeth gan ei oruchwylwyr diwydiannol ac academaidd, roedd e’n gallu defnyddio algorithm arall yn ddidrafferth a chwblhau'r prosiect yn llwyddiannus.

Canlyniadau a Deilliannau

Datblygodd Richard brototeip o offeryn algorithmau sy'n gallu canfod pam mae damweiniau’n digwydd. Nod y prosiect oedd dangos sut y gallai'r algorithm cywir ddod o hyd i batrymau a chanlyniadau o’r data yn gyflym ac yn effeithlon, ac fe gyflawnodd hyn yn llwyddiannus.

Yn dilyn llwyddiant traethawd hir Richard, cafodd gyflwyno ei waith yn un o gynadleddau’r diwydiant yn Birmingham, oedd yn brofiad gwerth chweil. Cafodd Richard ragoriaeth yn y prosiect, gan gyflawni ei nod cychwynnol ac ar ben hynny yn dipyn o gamp.

Beth ddigwyddodd wedyn?

Yn dilyn y gynhadledd, cynigiodd Empirisys swydd i Richard, ac mae bellach yn gweithio iddyn nhw yn Beiriannydd Data.

Mae'r canlyniad hwn yn pwysleisio gwerth aruthrol un o brosiectau traethawd hir yr Academi yrfa myfyriwr. Mae Richard yn cynghori myfyrwyr sy'n ystyried prosiect diwydiannol i "gydio yn y cyfle" oherwydd ei fod yn brofiad gwerthfawr cyn graddio a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.

Rydyn ni wrth ein boddau â chanlyniad y prosiect hwn i Richard ac Empirisys ac yn edrych ymlaen at lawer mwy o brosiectau MSc diwydiannol gwych wrth i’r Academi barhau i dyfu.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Academi Gwyddor Data (DSA) a’r hyn rydyn ni’n ei wneud, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig prosiect ar gyfer y flwyddyn nesaf, cysylltwch â Thîm yr Academi gan e-bostio dsa@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon