Rhy boeth i fynd allan: menywod, pobl ag incwm uchel, a phobl hŷn sydd fwyaf tebygol o archebu bwyd i’w ddosbarthu yn ystod tywydd poeth
2 Ionawr 2025
Yn ôl astudiaeth newydd mae trigolion dinasoedd yn osgoi tywydd poeth iawn trwy archebu bwyd gan wasanaethau dosbarthu bwyd.
Mae'r ymddygiad, sydd i’w weld yn bennaf ymhlith menywod, pobl ag incwm uchel a phobl hŷn, yn rhan o strategaeth addasu sy’n dod i’r amlwg y mae trigolion trefol yn ei defnyddio yn y gwres, yn ôl y tîm rhyngwladol o ymchwilwyr.
Mae eu hastudiaeth yn tynnu sylw at y cyfleoedd i leihau dod i gysylltiad â thymereddau uchel a gaiff eu hachosi gan y newid yn yr hinsawdd, a hynny drwy ddefnyddio gwasanaethau dosbarthu bwyd, yn enwedig ar gyfer grwpiau agored i niwed fel pobl hŷn, pobl ag incwm isel, a phobl â symudedd cyfyngedig.
Fodd bynnag, mae’r ymchwilwyr yn rhybuddio nad yw manteision lleihau dod i gysylltiad â’r gwres wedi'u dosbarthu'n gyfartal ar draws gwahanol boblogaethau.
Yn hytrach, mae eu canfyddiadau, a gafodd eu cyhoeddi yn Nature Cities, yn datgelu mai gweithwyr dosbarthu, yn hytrach na defnyddwyr, sydd bellach yn dod i fwy o gysylltiad â’r gwres, gan amlygu’r angen cynyddol am yswiriant iechyd galwedigaethol yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd yr awdur Dr Daoping Wang, darlithydd yn Adran Daearyddiaeth Coleg y Brenin, Llundain: “Mae digwyddiadau gwres eithafol a gaiff eu hachosi gan y newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn fwy aml, gan ddod â bygythiadau gwirioneddol i iechyd pobl. Ac, o ganlyniad, mewn dinasoedd, rydyn ni’n gweld y mathau hyn o ddigwyddiadau tywydd yn cyfyngu ar weithgareddau awyr agored trigolion.”
Nododd y tîm gynnydd mewn pobl yn dibynnu ar wasanaethau dosbarthu bwyd ar ddiwrnodau poeth, lle’r oedd y tymheredd yn uwch na 30°C, a hynny drwy ddadansoddi cofnodion dosbarthu bwyd helaeth o 100 o ddinasoedd yn Tsieina rhwng 2017 a 2023.
Roedd eu dadansoddiad wedi datgelu amrywiadau sylweddol yn yr ymateb i’r gwres ar draws grwpiau demograffig, gyda menywod, pobl ag incwm uchel a phobl hŷn yn addasu’n well.
Ychwanegodd Dr Wang: “Gyda gwasanaethau dosbarthu bwyd sy’n dod i'r amlwg yn gwasanaethu mwy na 500 miliwn o bobl yn Tsieina, mae'r rhain yn darparu ffordd i bobl archebu eu bwyd er mwyn osgoi dod i gysylltiad â'r tywydd.
“Fodd bynnag, hyd yma roedd yr effeithiau ar ddefnyddwyr a gweithwyr dosbarthu yn parhau i fod yn anhysbys, a’r rhwystr pennaf am hyn oedd prinder y data a oedd ar gael. Mae ein set ddata unigryw a gafodd ei datblygu ar y cyd â’r platfform dosbarthu bwyd mwyaf yn Tsieina yn ein helpu i gael darlun mwy cyflawn.”
Mae'r ymchwil yn darparu tystiolaeth empirig genedlaethol ddigynsail bod archebu bwyd i’w ddosbarthu yn strategaeth addasu yn y gwres, gan amlygu gwahaniaethau o ran y demograffig yn ei fanteision, a'r pryderon o ran cyfiawnder cymdeithasol sy'n gysylltiedig â gweithwyr dosbarthu yn dod i gysylltiad â’r gwres.
Ychwanegodd y cyd-awdur Dr Pan He, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd: “Mae ein hastudiaeth yn meintioli manteision archebu bwyd i’w ddosbarthu, gan ddangos y gall trigolion osgoi 3.6 awr y flwyddyn ar gyfartaledd o gerdded mewn gwres eithafol, lle mae’r tymheredd yn uwch na 35°C, trwy ddefnyddio gwasanaethau dosbarthu bwyd.
“Fodd bynnag, nid yw’r manteision hyn wedi’u dosbarthu’n gyfartal, ac mae cyfran sylweddol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r gwres yn cael ei drosglwyddo i weithwyr dosbarthu, gan amlygu anghydraddoldeb cymdeithasol sylweddol yn yr arferion hyn.
“Wrth i ddigwyddiadau tywydd eithafol gynyddu o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd, mae ein hastudiaeth yn cynnig tystiolaeth hanfodol y gall gwasanaethau dosbarthu bwyd helpu i leihau’r cyfleoedd o ddod i gysylltiad â’r gwres, yn enwedig ymhlith grwpiau agored i niwed.”
“Er mwyn gwneud y mwyaf o’r manteision hyn, rhaid i lunwyr polisïau ystyried mesurau i feithrin sefyllfa lle mae gan bawb yr un mynediad at wasanaethau ac, ar yr un pryd, rhoi mesurau diogelu ar waith ar gyfer gweithwyr dosbarthu”, yw casgliad Yunke Zhang ac Yong Li, aelodau’r tîm o Brifysgol Tsinghua.
Mae'r ymchwilwyr bellach yn bwriadu asesu effaith amgylcheddol dosbarthu bwyd, gan gynnwys gwastraff plastig ac allyriadau, ac ymchwilio i atebion tecach ar gyfer diogelu gweithwyr dosbarthu, gan gynnwys cymorthdaliadau o ganlyniad i’r gwres ac arloesi technolegol, er enghraifft dosbarthu heb ddefnyddio pobl.
Mae eu papur, 'Urban food delivery services as extreme heat adjustment' wedi’i gyhoeddi yn Nature Cities.