Disgyblion y Chweched Dosbarth yn cael blas ar arwain busnesau
19 Rhagfyr 2024

Mae rhaglen cyfrwng Cymraeg unigryw sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn helpu i roi hwb i daith disgyblion y chweched dosbarth i ddod yn arweinwyr busnesau yn y dyfodol.
Daeth pobl ifanc 16 ac 17 oed ynghyd i ddysgu am sgiliau arwain a rheoli mewn rhaglen chwe wythnos. Daeth cyfranogwyr o dair ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd, gan gynnwys Ysgol Plasmawr, Ysgol Bro Edern, ac Ysgol Glantaf.
Roedd y sesiynau wedi’u cyflwyno yn Gymraeg gan Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn gyfuniad o gyflwyniadau, tasgau ymarferol, a gwybodaeth arbenigol gan ddarlithwyr, athrawon, a gweithwyr busnes proffesiynol.
Cafodd y rhaglen ei chynllunio ar gyfer myfyrwyr uchelgeisiol sy’n ystyried addysg uwch a/neu yrfaoedd mewn busnes. Aeth i'r afael â phynciau megis yr economi gylchol, cynaliadwyedd, amrywiaeth a chynhwysiant, marchnata digidol, economeg, a rheoli digwyddiadau.
Rhoddodd y 25 o gyfranogwyr adborth gwych, gan ganmol gweithgareddau megis efelychiadau masnachu stoc, heriau tîm, a chyfweliadau ffug ar gyfer swyddi yn eu busnesau ffug.
Dywedodd yr Athro Eleri Rosier o Ysgol Busnes Caerdydd, a arweiniodd y cwrs:
“Mae defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn agor cymaint o ddrysau, ac mae’n hollbwysig mentora pobl ifanc dalentog i ddangos iddyn nhw bod modd datblygu gyrfaoedd llwyddiannus yma yng Nghymru. Mae’r myfyrwyr hyn wedi dangos addewid anhygoel fel arweinwyr y dyfodol ac mae eu brwdfrydedd a’u potensial wedi cael argraff fawr arnaf.”
Mae’r rhaglen hon yn rhan o ymrwymiad Ysgol Busnes Caerdydd i ehangu mynediad at addysg busnes a chynyddu’r nifer o fyfyrwyr Cymraeg sy’n ei chyrsiau.