Ewch i’r prif gynnwys

Enhance your career options with our suite of semiconductor CPD courses

9 Ionawr 2025

Ydych chi'n gweithio yn sector lled-ddargludyddion ac eisiau ehangu eich set sgiliau presennol, neu efallai’n ystyried gyrfa yn y diwydiant hwn sy'n tyfu o hyd? Manteisiwch ar y gyfres o gyrsiau datblygiad proffesiynol byr a luniwyd i gefnogi anghenion sgiliau’r sector cyffrous hwn.

Boed yn GPS, yn lloerennau neu’n ffonau symudol, mae technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd (CS) yn ein microsglodion yn pweru'r dyfeisiau rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd.  Mae'n hollbwysig i dechnolegau’r genhedlaeth nesaf, megis lidar a chwantwm, sy'n gofyn am fwy o gyflymder, effeithlonrwydd a pherfformiad. Dyma sector deinamig sy'n tyfu'n gyflym ac yn gofyn am weithlu medrus iawn sy’n gallu addasu. Yma yn ne Cymru, rydyn ni’n falch o gyflwyno CSConnected, sef y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf yn y byd.

Rydyn ni’n falch o gynnig nifer o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) wedi'u teilwra i bobl sy'n gweithio ym maes lled-ddargludyddion neu sy'n dymuno ymuno ag ef. Mae'r cyrsiau hyn yn gyfle delfrydol i ehangu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd.

Lluniwyd y cyrsiau yn rhan o brosiect Cronfa Cryfder mewn Lleoedd (SIPF) CSConnected, gyda chymorth cyllido Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), i sicrhau bod y gweithlu'n parhau i fod yn gystadleuol yn y sector hollbwysig hwn.

Cyrsiau sydd ar gael

Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Mae'r cwrs dwy ran hwn yn cyflwyno electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd ac yn pwysleisio’r defnydd ymarferol ohoni.

Yn Rhan Un, drwy astudio hunangyfeiriedig ar-lein, mae’r sawl sy’n cymryd rhan yn dysgu am sut mae technoleg electronig lled-ddargludyddion a lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cael ei chreu, y rôl mae'n ei chwarae yn y dyfeisiau rydyn ni’n eu defnyddio o ddydd i ddydd, a sut mae electroneg CS yn pweru cymwysiadau'r genhedlaeth nesaf.

Dyma a ddywedodd Jenny, sy’n gweithio yn un o sefydliadau partner clwstwr CSConnected, ac a gymerodd ran yn yr hyfforddiant hwn yn ddiweddar: “Roedd y cwrs hwn yn hygyrch iawn ac yn addas i fy ngwaith a bywyd cartref. Mae'r fideos yn para am ddim mwy na deg munud felly gallwch chi wylio fideo deg munud, ateb rhai cwestiynau a dychwelyd ato rywbryd arall os bydd angen. Ar y cyfan, dim ond hanner diwrnod y byddai ei angen i'w gwblhau mewn un sesiwn.”

Gweithdy ymarferol a phersonol sy'n ehangu ar ddysgu Rhan Un yw Rhan Dau, gan ganiatáu i’r sawl sy’n cymryd rhan gydweithio ar weithgareddau grŵp sy'n rhoi'r dechnoleg ar waith.

Mae Rhan Un ar gael unrhyw bryd ar alw. Bydd Rhan Dau, sef y sesiwn wyneb yn wyneb, ar gael sawl gwaith yn ystod 2025, ac mae’r dyddiadau yma. Sylwer y bydd gofyn i’r sawl sy’n cymryd rhan fod wedi cwblhau Rhan Un cyn cofrestru ar gyfer Rhan Dau.

Protocolau’r Ystafell Lân

Mae deall amgylcheddau’r ystafell lân yn hollbwysig ym myd gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion. Yn y cwrs ar-lein hwn cyflwynir y sawl sy’n cymryd rhan i hanfodion gweithio yn yr amgylcheddau hynod o reoledig hyn, gan gynnwys egwyddorion gweithio diogel a’r arferion nodweddiadol. Mae hyn yn hollbwysig i'r rheini sy'n mynd i mewn i’r ystafelloedd glân neu'n gweithio ynddyn nhw, lle mae manwl gywirdeb a diogelwch o’r pwys mwyaf.

Rhagor o wybodaeth.

Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Mae'r cwrs ar-lein hwn yn cyflwyno ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r defnydd ymarferol ohoni. Mae'n rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r pwnc, gan helpu’r sawl sy’n cymryd rhan i ddeall sut mae ffotoneg (gwyddoniaeth ffisegol golau) yn ysbarduno arloesi yn y maes.

Dyma a ddywedodd rhywun a gymerodd ran yn yr hyfforddiant yn ddiweddar: “Mwynheuais i’r cwrs hwn yn fawr. Dysgais i lawer am ffotoneg a ches i sylfaen dda fydd yn fy helpu i ddeall fy swydd yn well. Weithiau roedd cryn dipyn o fanylder, ond mae hynny wedi fy ysgogi i ddysgu mwy am y pwnc hwn!”

Rhagor o wybodaeth.

Cyflwyniad i Fondio Gwifrau

Mae'r cwrs wyneb yn wyneb undydd hwn yn cyfuno theori a dysgu ymarferol am fondio gwifrau, sef un o'r prosesau rhyng-gysylltu allweddol ynghlwm wrth weithgynhyrchu lled-ddargludyddion. Yn yr hyfforddiant hwn caiff y sawl sy’n cymryd rhan arsylwi sut mae cyfarpar bondio gwifrau yn gweithio a dysgu sut i wneud penderfyniadau gwell wrth roi'r broses bondio gwifrau ar waith.

Dyma a ddywedodd rhywun a gymerodd ran yn y cwrs yn ddiweddar: “I rywun heb brofiad o fondio gwifrau, fel fi, roedd ar y lefel gywir i ddeall y gwahaniaethau, y manteision ac anfanteision ym mhob achos, a sut i’w rhoi ar waith yn ymarferol.”

Rydyn ni’n gobeithio y bydd modd rhoi'r cynnwys damcaniaethol ar-lein yn 2025.

Rhagor o wybodaeth

Cyrsiau sydd wrthi’n cael eu datblygu

Cyflwyniad i Ysgythru at ddibenion Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion

Gan ddechrau yn gynnar yn 2025, bydd y cwrs wyneb yn wyneb deuddydd hwn yn cyflwyno'r theori sy’n ymwneud ag ysgythru gwlyb a sych (neu blasma), gan gynnig gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o'r rhan hon o'r broses ffabrigo haenellau.

Ein gobaith yw rhoi'r cwrs wyneb yn wyneb hwn ar-lein a rhagwelwn y bydd ar gael o rywbryd yn gynnar yn 2026.

Risg, Gwytnwch a Chynaliadwyedd mewn Cadwyni Cyflenwi Lled-ddargludyddion

Gan lansio yn ystod haf 2025, bydd y cwrs wyneb yn wyneb undydd hwn yn trin a thrafod yr heriau sylfaenol sy'n wynebu cadwyni cyfoes cyflenwi lled-ddargludyddion Bydd yn ystyried offer a thechnegau rheoli risg yn ogystal â chynnig dealltwriaeth o'r heriau cynaliadwyedd y mae’r sector yn eu hwynebu a'r strategaethau y mae busnesau'n eu defnyddio i fynd i'r afael â nhw.

Deall y Gadwyn Cyflenwi Lled-ddargludyddion - o’r Deunyddiau hyd y Defnydd Ymarferol ohonynt

Gan lansio yn Hydref 2025, bydd y cwrs ar-lein 3 awr hwn yn cynyddu ymwybyddiaeth gyffredinol o’r camau gwahanol yn y gadwyn cyflenwi lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan helpu staff i wneud penderfyniadau gwell yn eu swyddi. Bydd y cwrs yn dechrau drwy roi trosolwg o'r diwydiant lled-ddargludyddion cyn mynd ati i ymdrin â dyfeisiau lled-ddargludyddion, y pecynnu a’r defnydd ymarferol o’r rhain, yn ogystal â’r technolegau sy'n dod i'r amlwg a thueddiadau'r dyfodol.

Rhaglen Lôn Gyflym Integreiddio Peirianwyr

Bydd y gweithgarwch hon, fydd yn para am wythnos, yn cael ei ddatblygu o haf 2025 a'i lansio yn 2026. Bwriad y rhaglen yw denu talent, ac mae’n cael ei anelu at y rheini sydd â phrofiad o beirianneg sy'n ystyried gyrfa yn sector CS. Bydd y rhaglen yn cynnwys nifer o weithgareddau DPP (gan gynnwys elfennau o'r cyrsiau y cyfeirir atyn nhw uchod) yn ogystal â rhai ymweliadau â labordai/byd diwydiant a chyfleoedd i rwydweithio. Bydd cymryd rhan drwy broses ymgeisio yn rhad ac am ddim.

Mae DPP yn hollbwysig er mwyn creu twf a datblygu byd busnes a diwydiant, ond hefyd i wireddu nodau unigol. Mae Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth ag aelodau eraill o glwstwr CSConnected, yn ymrwymedig i gynnig dysgu gydol oes sy’n hyblyg, wedi'i deilwra ac sy'n helpu i baru’r galw am sgiliau â'r cyflenwad.
Kate Sunderland Rheolwr Prosiect Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) - CSconnected | Rheolwr Datblygu Busnes - Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Pam astudio gyda ni?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r DU wedi mynd yn hollbwysig ym myd datblygu a chynhyrchu CS, ac mae clwstwr CSConnected yn ne Cymru yn arwain y ffordd. Dyma glwstwr CS cyntaf y byd, gan ddod â Phrifysgol Caerdydd ac Abertawe ynghyd, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, CS Applications Catapult, a phrif sefydliadau’r diwydiant, gan gynnwys y cwmnïau rhyngwladol IQE plc, KLA Corp, Microchip Technology, Vishay Intertechnology, a Microlink. Gyda'i gilydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, maen nhw’n sbarduno twf economaidd ac yn creu swyddi yn ne Cymru. Mae llwyddiant y clwstwr wedi arwain at £1 biliwn o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat gan greu mwy na 2,500 o swyddi, a hynny gyda chefnogaeth buddsoddiad llywodraeth y DU drwy gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI.

Wrth i sector CS dyfu, mae parhau ar y blaen yn hollbwysig. Cafodd ein cyrsiau DPP eu strwythuro i gydbwyso gwybodaeth ddamcaniaethol â’r defnydd ymarferol ohoni, gan ddiwallu anghenion gweithwyr proffesiynol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd a chyd-fynd ag anghenion sector CS y DU sy’n prysur ehangu. Mae ein cyfuniad o gyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn golygu bod ein profiadau dysgu yn hyblyg ac yn gyfleus.

Dyma a ddywedodd Kate Sunderland, Rheolwr Prosiectau DPP CSconnected SIPF: “Mae'r broses o gynnig DPP yn tyfu o hyd wrth inni lansio a hyrwyddo rhagor o gyrsiau. Ers dechrau'r prosiect rydyn ni wedi croesawu mwy na 300 o bobl, a barn gyson y sawl sy’n cymryd rhan yw eu bod yn 'dda iawn' neu'n 'ardderchog'."

Diolch i gyllid sylweddol gan UKRI, gostyngwyd ffioedd y cyrsiau DPP yn fawr, gan eu gwneud yn hygyrch ac yn fforddiadwy. Oherwydd cyllid ychwanegol gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ceir lleoedd a ariennir yn llawn i 128 o bobl sy'n byw neu'n gweithio yn y rhanbarth, gan sicrhau bod y cyrsiau hyn yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.

Cysylltwch â ni

Kate Sunderland

Kate Sunderland

Rheolwr Prosiect Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) - CSconnected | Rheolwr Datblygu Busnes - Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Email
sunderlandk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9119