Ewch i’r prif gynnwys

Hyrwyddo dyfodol amlieithog i Gymru

17 Rhagfyr 2024

Digwyddiad yn y Senedd

Mae menter dan arweiniad Prifysgol Caerdydd i gynyddu nifer y bobl sy’n dysgu ieithoedd rhyngwladol ar lefel TGAU yn nodi degawd o ysbrydoli dysgwyr.

Mae Mentora Ieithoedd Tramor Modern (MFL) yn brosiect a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru sydd â’i bencadlys ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r prosiect yn hyfforddi myfyrwyr prifysgol i weithio gyda dysgwyr ieithoedd mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru i hyrwyddo manteision parhau â dysgu iaith yn ystod eu cyfnod TGAU. Mae Mentora MFL yn fenter ar draws pob un o'r naw Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru. Cafodd ei chreu er mwyn ymateb i'r dirywiad yn nifer y dysgwyr a oedd yn astudio iaith ryngwladol (Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg) ar lefel TGAU.

Yn ystod digwyddiadau a gafodd eu cynnal yn y Senedd, clywodd arweinwyr y sector, llunwyr polisïau, gwleidyddion, athrawon a phartneriaid rhyngwladol am lwyddiant y fenter yn ogystal â'r heriau sydd o'n blaenau wrth i'r tîm rannu eu canfyddiadau cychwynnol o adroddiad trylwyr ar y prosiect.

Hyd yma, mae'r fenter wedi hyfforddi tua 1,000 o israddedigion ac ôl-raddedigion, gan roi cyfle iddyn nhw fentora myfyrwyr ysgol uwchradd ym mlwyddyn wyth a naw, a rhannu eu cariad at ieithoedd. Ers 2015, mae miloedd o bobl ifanc 14 a 15 oed wedi elwa o'r fenter mewn 172 o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae athrawon wedi ei chanmol, gan ddweud ei bod yn ymyriad trawsnewidiol. Mae dysgwyr yn dweud bod y fenter wedi cynyddu eu hyder gydag ieithoedd ac wedi rhoi hwb i'w hymwybyddiaeth o ieithoedd yn sgil trosglwyddadwy.

Dywedodd yr arweinydd academaidd, yr Athro Claire Gorrara, o Ysgol Ieithoedd Modern y Brifysgol: “Mae’r Gymraeg, y Saesneg, cartref, treftadaeth, cymuned ac ieithoedd rhyngwladol yn ein cysylltu a sut rydyn ni'n ymwneud â'n gilydd. Mae cydnabod a gwerthfawrogi'r eco-system iaith gyfoethog rydyn ni’n byw ynddi yn hanfodol i ffyniant cymdeithasol ac economaidd Cymru sydd wedi'i chysylltu'n fyd-eang.

“Mae canfyddiadau cychwynnol gwerthusiad allanol menter Mentora MFL yn dangos bod y model mentora wedi bod yn hynod effeithiol wrth gyfoethogi ysgolion, rhoi hwb i ddefnydd iaith, a mynd i'r afael â heriau systemig mewn addysg iaith yng Nghymru. Mae ei llwyddiant wedi ysbrydoli disgyblaethau eraill, megis Ffiseg, i efelychu ei model allgymorth, gan ddangos bod modd ei ehangu a'i gymhwyso i sefyllfaoedd eraill.

“Er ei bod yn galonogol gweld ystadegau sy'n dangos bod menter Mentora MFL wedi arafu'r dirywiad yn y nifer sy'n dysgu iaith ar lefel TGAU yn llwyddiannus, mae nifer y dysgwyr sy'n dewis ieithoedd yn dal i ddirywio yn gyffredinol. Felly mae mentrau fel y rhain yn hanfodol yn ein hymdrechion i wrthdroi'r duedd bryderus hon a chynnig ymyriad holl bwysig sy’n sefydlogi’r sefyllfa i ddysgwyr mewn ysgolion.”

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.