Gweithio gyda Chanolfan Gwasanaethau BBaCh Shanghai i greu rhaglen hyfforddi arloesol yn y sector cyhoeddus
20 Rhagfyr 2024
Mae de Cymru yn lle cyffrous i weithio ym myd busnes. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r rhanbarth wedi trawsnewid i fod yn lle bywiog o ran y cymorth a roddir i fusnesau, gyda BBaChau yn cael cefnogaeth trwy gyllid, cydweithio, mentora ac addysg.
Ar y cyd â mentrau fel Syniadau Mawr Cymru, Cwmpas a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn rhoi llawer iawn o adnoddau i gefnogi BBaChau, busnesau newydd a datblygiadau arloesol.
Dyma leoliad ein rhaglen bwrpasol ddiweddaraf, a gynhyrchwyd ar gyfer Canolfan Gwasanaethau BBaCh Shanghai gydag Ysgol Busnes Caerdydd. Trwy gyfrwng y prosiect dwyochrog hwn, a ddefnyddiodd bynciau a gafodd eu cynnwys mewn rhaglenni MSc amrywiol, fe wnaethon ni ymdrochi cynrychiolwyr yn strwythur cymorth busnes ac entrepreneuriaeth fywiog de Cymru, gan rannu syniadau ac arferion gorau rhwng y ddau ranbarth.
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn ysgol fusnes a rheolaeth flaengar, ymchwil-ddwys. Dyma’r ysgol fusnes gwerth cyhoeddus gyntaf y byd. Mae darpariaeth Addysg Weithredol yr ysgol yn troi ymchwil academaidd yn arferion busnes perthnasol, gweithredol ac effeithiol ar gyfer unigolion a sefydliadau.
Canolbwyntio ar weithredu - troi syniadau a chysyniadau yn gamau gweithredu penodol i wella perfformiad unigol a sefydliadol - sy'n gwneud i’r hyn rydyn ni’n ei gynnig sefyll allan.
Cafodd y rhaglen ei chyflwyno gan dri academydd o Ysgol Busnes Caerdydd, Dr Alison Parken y Cyfarwyddwr Addysg Weithredol, Sarah Lethbridge y Dirprwy Ddeon ar gyfer Ymgysylltu Allanol, a Dr Robert Bowen Uwch Ddarlithydd Entrepreneuriaeth Ryngwladol, gan roi parhad a chynnig cyd-destun rhwng y cyflwynwyr.
Trwy gydol y rhaglen bum diwrnod, clywson ni gan gydweithwyr o Ysgol Busnes Caerdydd, ynghyd â phartneriaid allanol gan gynnwys Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Llywodraeth Cymru. Buon ni’n dysgu am agweddau allweddol ar ddatblygiad BBaChau, o feithrin arloesedd cymdeithasol ar gyfer arloeswyr ifanc, a meithrin entrepreneuriaeth amrywiol, i rôl y byd academaidd wrth gefnogi BBaChau, a rôl lleoliad ffisegol wrth annog arloesedd.
Cysylltu â ni
Os hoffech chi drafod rhaglen debyg ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar am sgwrs anffurfiol gychwynnol.