Sbarduno effaith trwy gydweithio: partneriaethau ymchwil a diwydiant yn Niwrnod Mathemateg ym myd Diwydiant
16 Rhagfyr 2024
Roedd Diwrnod Mathemateg ym myd Diwydiant yr Ysgol Mathemateg yn arddangos rôl hollbwysig cydweithio rhwng y byd academaidd a’r diwydiant wrth ysgogi arloesedd, mynd i’r afael â heriau’r byd go iawn ac ysbrydoli gweithwyr proffesiynol y dyfodol.
Daeth y digwyddiad ag academyddion blaenllaw o’n Hysgol a’n harweinwyr yn y diwydiant at ei gilydd i archwilio sut mae gwaith ymchwil cydweithredol yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf enbyd mewn sectorau amrywiol, yn ogystal â chreu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad a thwf diwydiannol.
Yn ei chyflwyniad agoriadol, bu Dr Katerina Kaouri, Cyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu ein Hysgol, yn crynhoi’r ffyrdd amrywiol mae’r Ysgol yn cydweithio â diwydiant.
Dyma a ddywedodd Dr Gueorgui Mihaylov, aelod o'n Bwrdd Cynghori Diwydiannol a Prif Wyddonydd Data Haleon: "Mae'r mentrau a gafodd eu cyflwyno yn y Diwrnod Mathemateg ym myd Diwydiant yn dangos yn glir y rôl y gall technegau mathemategol uwch ei chwarae o ran cynyddu amlygrwydd digidol mewn prosesau a systemau cymhleth yn y byd go iawn."
Tynnodd y diwrnod hefyd sylw at sut mae ein myfyrwyr yn llunio eu gyrfaoedd yn y dyfodol trwy bartneriaethau yn y diwydiant – o leoliadau israddedig i ddilyn graddau uwch wedi'u teilwra i anghenion y diwydiant, a gweithio ar brosiectau a ariennir gan y diwydiant.
Dangosodd Dominic Evans, myfyriwr MSc y Gwyddorau Data a Dadansoddeg ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n gweithio i Dŵr Cymru, sut mae ei waith, yn enwedig datblygu model a yrrir gan ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer dadansoddi delweddau dronau, yn cyfrannu’n uniongyrchol at welliannau yn arferion y diwydiant dŵr. Nod ei brosiect traethawd hir, sy'n canolbwyntio ar ganfod problemau gyda waliau argae, yw gwella cywirdeb wrth leihau costau gweithredol ac amser.
Rhannodd myfyriwr PhD Fan Wu ei gwaith ymchwil ar effaith cwymp Banc Silicon Valley ar y diwydiant technoleg, gan ddefnyddio data gan gwmnïau technoleg blaenllaw.
Siaradodd Syon Parashar, myfyriwr sy'n archwilio gofal iechyd a bioystadegau, am ei leoliad blwyddyn o hyd yn Roche, wedi'i hwyluso gan y gwasanaeth Cyngor ar Yrfaoedd Mathemateg. Ar hyn o bryd, mae Syon yn astudio Mathemateg, Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegau (BSc). Datblygodd raglen hyfforddi ar gyfer dechreuwyr newydd ym maes Bioystadegau yn ystod ei amser yn Roche.
Roedd y Diwrnod Mathemateg ym myd Diwydiant hefyd yn cynnwys mewnwelediadau gwerthfawr gan weithwyr proffesiynol y diwydiant fel Mark Ashenden o Rolls-Royce, Luke Maggs o Cyfoeth Naturiol Cymru, Cerys Ponting o Lywodraeth Cymru, a Dr Gueorgui Mihaylov o Haleon, a rannodd eu safbwyntiau ar yr heriau ymchwil a chyfleoedd am ddatblygiadau arloesol yn eu priod feysydd.
At hynny, roedd y digwyddiad yn cynnwys gwaith ymchwil gan academyddion sy'n dangos gwerth modelu mathemategol cymhwysol wrth ddatrys heriau hanfodol yn y diwydiant. Cyflwynodd Dr Usama Kadri system rhybuddio cynnar ar gyfer tswnamïau, ymhelaethodd yr Athro Paul Harper ar gydweithio gyda sawl Bwrdd Iechyd yng Nghymru ac yn Indonesia dros nifer o flynyddoedd, a dangosodd Dr Katerina Kaouri a Dr Thomas Woolley ap newydd sy’n amcangyfrif y risg o heintiau firaol mewn adeiladau. Rhoddodd Dr Yasemin Sengul Tezel, Dr Elizabeth Williams ac Elin Haf Williams sgyrsiau cryno 3 munud o hyd ar brosiectau ymchwil diwydiannol allweddol ym maes mathemateg.
Fe'i cynhaliwyd ddydd Mercher, Tachwedd 27, ac roedd yn gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr, ymchwilwyr academaidd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant rwydweithio ac archwilio partneriaethau posibl.
Cynhelir y Diwrnod Mathemateg ym myd Diwydiant nesaf ym mis Tachwedd 2025.
Tîm Effaith ac Ymgysylltu’r Ysgol Mathemateg (Dr Katerina Kaouri, yr Athro Owen Jones a Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth yr Ysgol) sy’n trefnu’r digwyddiad blynyddol hwn gyda chefnogaeth llawer o staff eraill yr Ysgol.
I gael rhagor o fanylion am y digwyddiad ac i drefnu trafodaeth ar gyfer cydweithio â ni, cysylltwch â’r tîm Effaith ac Ymgysylltu Mathemateg yn mathsengagement@caerdydd.ac.uk