Un o raddedigion Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ennill prif wobr Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA)
19 Rhagfyr 2024
Medalau Llywydd y RIBA yn cydnabod gwaith myfyrwyr pensaernïaeth gorau'r byd
Mae un o raddedigion Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi ennill Gwobr Serjeant Rhan 1 Medal Llywydd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) 2024 am Ragoriaeth mewn Arlunio.
Enillodd Jaehyun Byeon y wobr fawreddog am ei brosiect trydedd flwyddyn Hunaniaethau a Grëwyd: Amgueddfa Ffydd a Ffasiwn (Fabricated Identities:The Museum of Faith and Fashion) a gyflawnodd yn rhan o'i radd israddedig mewn astudiaethau pensaernïol.
Dywedodd Jaehyun: "Rwy’n falch iawn fy mod i wedi ennill y wobr hon. Diolch o galon i fy nhiwtor, Alexis Germanos, am ei arweiniad a’i gefnogaeth amhrisiadwy – ni fyddwn i wedi cyflawni hyn heb ei fentora rhagorol. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn fy ysgogi i barhau i ystyried a gwthio ffiniau mynegiant pensaernïol trwy luniadu”.
Medalau’r Llywydd yw gwobrau hynaf y RIBA ac fe'u hystyrir yn wobrau mwyaf mawreddog ym maes addysg bensaernïol yn fyd-eang.
“Gan ein bod yn ysgol bensaernïaeth flaenllaw rydyn ni’n rhoi pwyslais aruthrol ar greadigrwydd a sgiliau lluniadu, sef sylfeini ar gyfer rhagoriaeth mewn pensaernïaeth.”
Ac yntau bellach yn Gynorthwy-ydd Pensaernïol yn Foster + Partners, mae prosiect JaeHyun yn trin a thrafod syniadau am gof a chofebion ac yn codi cwestiynau am dreftadaeth bensaernïol yng nghyd-destun Milan ar ôl y rhyfel.
Am gydnabyddiaeth bellach o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, dewiswyd yr Athro Davis i fod yn rhan o'r panel beirniadu o fri ar gyfer gwobrau traethawd hir Medal y Llywydd.
Cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo RIBA yn Llundain ar 4 Rhagfyr.