Ewch i’r prif gynnwys

Mae prosiect Deallusrwydd Artiffisial wedi taflu goleuni ar sut i astudio planedau pellennig

13 Rhagfyr 2024

Lloeren Ariel yn teithio drwy’r gofod a thros unau a seroau sy’n cynrychioli data.
Mae Her Data Ariel 2024 wedi’i henwi ar ôl lloeren Ariel (‘Atmospheric Remote-sensing Infrared Exoplant Large-survey’) Asiantaeth Ofod Ewrop, y mae disgwyl iddi gael ei lansio ar ddiwedd y degawd. Credyd: Consortiwm Ariel.

Mae cystadleuaeth fyd-eang sy'n canolbwyntio ar wella ymchwil ar wyddor y gofod ac ecsoblanedau wedi dod i ben, gan gynnig canlyniadau rhyfeddol.

Bu cystadleuaeth Her Data Ariel 2024 yn canolbwyntio ar oresgyn amryw o ffynonellau sŵn, megis "sŵn crynu" dirgryniadau llongau gofod, gan ei bod yn bosibl i hyn gymhlethu'r broses o ddadansoddi’r data sbectrosgopig a ddefnyddir i astudio atmosfferau ecsoblanedau.

Enwir y gystadleuaeth ar ôl lloeren Ariel (Atmospheric Remote-sensing Infrared Exoplanet Large-survey) Asiantaeth Gofod Ewrop.

Y disgwyl yw y bydd Ariel yn lansio erbyn diwedd y degawd, a hi fydd y daith ofod gyntaf sy'n ymchwilio yn benodol i gemeg atmosfferig a strwythurau thermol ecsoblanedau.

Cynhyrchodd Dr Lorenzo Mugnai a Dr Andreas Papageorgiou o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd set ddata efelychedig yr Her gan ddefnyddio modelau cyfrifiadurol uwch llong ofod Ariel a’r ffynonellau y bydd yn eu harsylwi, gan roi cymorth a chyngor i'r timau fydd yn cymryd rhan.

Denodd y gystadleuaeth fwy na 1,400 o gyfranogwyr mewn 75 o wledydd a fu’n cystadlu am y gwobrau gwerth $50,000. O blith y cystadleuwyr talentog, roedd chwe thîm wedi gwneud argraff fawr a bydd y rhain yn gallu cyflwyno eu hatebion yng nghynhadledd fawreddog NeurIPS 2024 yn Vancouver ar 14 Rhagfyr 2024. Y myfyriwr PhD Kohki Horie a’r myfyriwr Meistr Yamato Arai ym Mhrifysgol Tokyo enillodd y wobr gyntaf.

Ychwanegodd Dr Papageorgiou: “Mae’r diddordeb byd-eang yn her data eleni wedi bod yn aruthrol ac mae wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau. Mae’n amlwg bod yr wyddoniaeth am blanedau y tu hwnt i gysawd yr haul a'r technegau uwch y mae'n rhaid inni eu defnyddio i ymchwilio iddyn nhw o ddiddordeb mawr i wyddonwyr ym mhob disgyblaeth. Mae’r gymuned DA yn fyd-eang wedi mynd i’r afael yn frwd â’r her data a’i gwneud yn llwyddiant ysgubol.”

Ychwanegodd Dr Mugnai: “Ym myd gwyddoniaeth mae bob amser yn bwysig bod â meddwl agored, bod yn barod i dderbyn syniadau newydd a manteisio ar wybodaeth newydd o ble bynnag y daw. Dyna ysbryd Her Data Ariel Mae'n helpu tîm Ariel i fod mewn cysylltiad ag arbenigwyr o feysydd eraill ac i elwa ar dalent a gwybodaeth arbenigwyr trin data ledled y byd. Mae hefyd yn beth hynod gyffrous i bobl y tu allan i’r prosiect ddysgu am daith ofod o’r radd flaenaf a chyfrannu ati.”

Dyma a ddywedodd Dr Gordon (Kai Hou) Yip o Goleg Prifysgol Llundain, Arweinydd Her Data Ariel: “Llongyfarchiadau mawr iawn i’r enillwyr a oedd wedi gwneud argraff fawr iawn yn y gystadleuaeth ddwys hon. Alla i ddim diolch yn ddigonol i bawb a roddodd o'u hamser a'u hegni yn ystod y tri mis diwethaf. Eich gwaith chi sy’n ein helpu i dorri tir newydd ym maes dadansoddi data a gwthio ffiniau’r hyn y gallwn ni ei gyflawni yn y maes hwn.”

Roedd yr her arloesol hon yn bosibl yn sgil cydweithio dan arweiniad Canolfan Data Ecsogemeg y Gofod Coleg Prifysgol Llundain i ddod â thîm rhyngwladol trawiadol o bartneriaid academaidd ynghyd gan gynnwys y Centre National D’études Spatiales (CNES), Prifysgol Caerdydd, Sapienza Università di Roma, a’r Institut Astrophysique de Paris.

Noddwyd Her Data Ariel 2024 gan Raglen Ymchwil Cystadlaethau Kaggle a’r CNES. Roedd y gystadleuaeth hefyd yn elwa o gefnogaeth consortiwm o asiantaethau gofod a sefydliadau blaenllaw, gan gynnwys Asiantaeth Gofod y DU, Asiantaeth Gofod Ewrop, yr Europlanet Society, RAL Space y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a Chyfleuster Cyfrifiadura Perfformiad Uchel DiRAC y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.