Prosiect Hanes Islam yng Nghymru - Digwyddiad Lansio Arddangosfa 2024
13 Rhagfyr 2024
Ddydd Iau 7 Tachwedd 2024, fe wnaeth Canolfan Islam-y DU lansio arddangosfa newydd yn Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Prosiect Hanes Islam yng Nghymru. Yn bresennol yn y digwyddiad oedd aelodau o’r Gymuned Fwslimaidd yng Nghymru, arweinwyr dinesig a ffydd, yn ogystal ag aelodau’r Senedd.
Dan arweiniad Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan, sef Dr Abdul-Azim Ahmed, diben y prosiect yw ceisio dogfennu ac adrodd "stori" Islam yng Nghymru a gwneud hanes Mwslimiaid yng Nghymru yn hygyrch i academyddion, y cyhoedd yn ehangach, a Mwslimiaid Cymreig eu hunain, er mwyn ehangu dealltwriaeth y cyhoedd o Gymru amlddiwylliannol ac aml-grefydd.
Ymhlith y siaradwyr ar y noson roedd Jane Hutt CBE, Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol; Yr Athro Damian Walford Davies, Provost a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd; a sylfaenydd Cyngor Mwslemaidd Cymru, yr Athro Saleem Kidwai OBE. Cynhaliwyd y digwyddiad dan gadeiryddiaeth Mariyah Zaman, sef Prif Swyddog Gweithredol Now in a Minute Media, sef cwmni sydd wedi bod yn un o’r prif bartneriaid yn y broses o gyflwyno’r Prosiect Hanes Islam yng Nghymru.
Bu i Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet, ganmol pwysigrwydd y prosiect, a’r ymchwil a wneir gan Ganolfan Islam-y DU, gan ddweud “rydyn ni mor ffodus eich bod chi yma yng Nghaerdydd, yn ein Prifysgol, ac yn cael cymaint o effaith.”
Gwnaeth y Dirprwy Is-ganghellor Damian Walford Davies groesawu’r arddangosfa, gan fynegi “pa mor falch ydw i, o’r hyn sydd allan yna, yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yma, yr hyn y mae Prifysgol Caerdydd wedi’i gyflawni”, a chan estyn “diolch i’r Sefydliad Jameel a’r Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU”.
Mae’r arddangosfa yn daith weledol gyfareddol i hanes Mwslimiaid yng Nghymru, ac mae’n cynnwys map sydd newydd ei gomisiynu o’r cysylltiadau Mwslemaidd ac Islamaidd â Chymru.
Yn ogystal â’r arddangosfa ffisegol, mae e-lyfr digidol o allbynnau’r prosiect wedi’i greu gan Swyddog Datblygu’r Ganolfan, Mark Bryant, sy’n caniatáu mynediad hawdd i ganfyddiadau’r prosiect. Mae’r e-lyfr yn cynnwys posteri’r arddangosfa, dolenni i fideos a darlithoedd esboniadol, a llyfr llawn lluniau, sy’n cynnwys y lluniau hynny a gafodd eu cyflwyno i’r gystadleuaeth ffotograffiaeth yn 2022 ar y thema “Islam yng Nghymru” er mwyn lansio’r prosiect.
Mae’r prosiect yn datgelu hanes cudd Mwslimiaid yng Nghymru, o dröedigion Fictoraidd cynnar, i sefydlu Caerdydd yn un o’r cymunedau Mwslemaidd cynharaf ym Mhrydain. Mae hyn yn adeiladu ar waith ein Cyfarwyddwr, yr Athro Sophie Gilliat-Ray.
Fel y mae hi’n ei grybwyll yn ei gwaith arloesol, Mwslimiaid ym Mhrydain, nid yn unig y mae “dylanwad diwylliant ac ysgolheictod Islamaidd ar gymdeithas Saesneg yr Oesoedd Canol… yn aml yn cael ei ddiystyru,” ond mae “natur Islamaidd amlwg” yr wybodaeth hon hefyd yn aml cael ei herio, gan greu bylchau a distawrwydd yn ei chylch. Mae'r un peth yn wir yn achos cysylltiad y gymdeithas yng Nghymru ag Islam, ac mae prosiect Dr Ahmed yn cynnig ateb pwerus.
Caiff yr arddangosfa yn Adeilad Morgannwg ei chynnal tan ddiwedd Ionawr 2025.