RemakerSpace: Blwyddyn o gymuned a chynaliadwyedd
12 Rhagfyr 2024
Mae RemakerSpace Prifysgol Caerdydd wedi dod yn ganolbwynt deinamig ar gyfer cynaliadwyedd, creadigrwydd ac ymgysylltu â'r gymuned.
Canolfan cymuned lewyrchus
Ers dod yn gwbl weithredol ym mis Hydref 2022, mae RemakerSpace wedi esblygu i fod yn ganolbwynt cymunedol bywiog, gan ymgysylltu â channoedd o fyfyrwyr a staff o bob rhan o Brifysgol Caerdydd. Gan gynnal popeth o ddigwyddiadau dros dro a gweithdai atgyweirio trydanol i ddigwyddiadau cymdeithasol crefftwyr misol, mae hefyd wedi chwarae rhan allweddol ym Mhythefnos Iechyd a Lles Cadarnhaol (PHEW) y Brifysgol am ddwy flynedd yn olynol.
Ymrwymiad i gynaliadwyedd
Gan hyrwyddo'r economi gylchol, mae RemakerSpace yn hyrwyddo ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu trwy weithdai ymarferol a phrosiectau arloesol. Mae ei hymrwymiad i gynaliadwyedd yn meithrin cyfrifoldeb amgylcheddol ac yn cyd-fynd â mentrau gwyrdd ehangach y Brifysgol.
Cydweithio
Gan gydweithio ag elusennau, busnesau a sefydliadau addysgol, mae RemakerSpace wedi partneru â sefydliadau fel Partner Strategol y Brifysgol, DSV, a Glory Global Solutions. Maen nhw hefyd wedi cefnogi digwyddiadau ymgysylltu gyda thimau Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol ac wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y brifysgol.
Dywedodd yr Athro Aris Syntetos, Cyfarwyddwr RemakerSpace:
Edrych tua’r dyfodol
Wrth i 2025 agosáu, mae'r Ganolfan yn awyddus i ehangu ei chynigion wrth hyrwyddo ymdrechion cynaliadwyedd.
Dywedodd yr Athro Monjur Mourshed, Deon dros Gynaliadwyedd Amgylcheddol:
"Mae ymrwymiad y Ganolfan i ehangu mynediad at sgiliau cynaliadwyedd a meithrin diwylliant o arloesi yn enghraifft o'r gwerthoedd sy'n sail i Ein Dyfodol Gyda'n Gilydd, strategaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer creu dyfodol cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n dymuno llwyddiant parhaus i RemakerSpace ar ei daith ysbrydoledig."
Cymerwch ran
P'un a ydych am gynorthwyo myfyrwyr gyda phrosiectau i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn trwy brosiectau ymarferol, neu os ydych chi’n staff prifysgol sydd â diddordeb mewn defnyddio'r gofod ar gyfer mentrau adrannol, mae'r tîm yn barod i gydweithio.
Mae RemakerSpace, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac Ysgol Busnes Caerdydd, yn fenter ddielw sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu â’r gymuned ac addysg i hyrwyddo a chefnogi ymestyn cylch bywyd cynnyrch ac egwyddorion yr economi gylchol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i RemakerSpace a chysylltwch â Rheolwr y Ganolfan, Rebecca Travers trwy e-bostio RemakerSpace@caerdydd.ac.uk.