Community Gateway celebrates ten years
10 Rhagfyr 2024
Dathlodd y Porth Cymunedol ei ben-blwydd yn ddeg oed ym mis Hydref. Daeth ein tîm a’r gymuned leol ynghyd i ddathlu’r achlysur mewn digwyddiad ym Mhafiliwn Grange.
Ers ei lansio yn y digwyddiad Trawsnewid Cymunedau yn y Senedd, yn 2014, mae’r Porth Cymunedol wedi cyflawni bron i 100 o brosiectau ymchwil, addysgu a datblygiad proffesiynol, gan ymateb yn uniongyrchol i feysydd blaenoriaeth a nodwyd gan y gymuned ar draws Grangetown.
Rydyn ni hefyd wedi cydweithio â phob un o 24 o ysgolion academaidd Prifysgol Caerdydd a gyda thimau proffesiynol, o Ehangu Cyfranogiad, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, a Chaffael ac Ystadau, gan ddatblygu prosiectau byw yn ogystal â llwybrau gyrfa a menter rhwng Prifysgol Caerdydd a Grangetown.
Hyd yma, ein prosiect mwyaf mewn partneriaeth â thrigolion Grangetown a grwpiau cymunedol fu adnewyddu Pafiliwn Grange, sef pafiliwn bowlio oedd wedi dirywio, a’i droi’n fan cymunedol sydd bellach yn ffynnu. Ar ôl blynyddoedd o ymgynghori a chynllunio, yn 2018, arweiniodd y Porth Cymunedol gais partneriaeth am gyllid a derbyniodd Pafiliwn Grange grant o fwy na £1 miliwn gan Gronfa’r Loteri Fawr i ailddatblygu Pafiliwn Grange yn gyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer pobl Grangetown.
Ers ei lansio yn 2022, mae Pafiliwn Grange wedi gwasanaethu miloedd o aelodau’r gymuned o bob oed, cred a diddordeb, gan roi cyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant, arferion creadigol, iechyd a lles, darpariaeth ieuenctid, a gweithredu cymunedol.
Mae prosiectau eraill wedi cynnwys lansio Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, sydd bellach wedi'i gofrestru yn Gwmni Buddiannau Cymunedol, cefnogi’r caffi sy'n canolbwyntio ar y gymuned, The Hideout (sydd wedi'i leoli yn y Pafiliwn), ein Digwyddiad Caru Grangetown blynyddol, Lleisiau Cymunedol Caerdydd, Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown, Tyfu i fyny yn Grangetown a Milltir Butetown, ymhlith eraill.
Mae cyfranogiad myfyrwyr wedi bod yn rhan hanfodol o waith y Porth Cymunedol dros y deng mlynedd diwethaf. Mae dros 700 o fyfyrwyr o'r Ysgolion Busnes, Meddygaeth, y Gwyddorau Cymdeithasol, a Phensaernïaeth wedi gweithio ar 35 o brosiectau addysgu 'byw', yn ogystal â thros 200 o fyfyrwyr a graddedigion yn gwirfoddoli ar brosiectau Grangetown.
Ers ei lansio deng mlynedd yn ôl, mae’r Porth Cymunedol wedi rhoi dros £100,000 o arian sbarduno i brofi bron i 100 o brosiectau rhwng y gymuned a’r brifysgol ar wahanol raddfeydd. Mae’r bartneriaeth wedi dod â thros £2,000,000 o fuddsoddiad i’r ardal.
Mae 'ffiniau meddal' wedi bod gan y prosiect erioed, ac mae bob amser yn agored i gydweithio ag ardaloedd cyfagos Grangetown. Yr uchelgais yw ehangu'r Porth Cymunedol i ardaloedd eraill o Gaerdydd er mwyn i ragor o gymunedau ddod at ei gilydd ac arwain ar bartneriaethau rhwng y brifysgol a’r gymuned.
Yn ystod y digwyddiad pen-blwydd diweddar, ymunodd dros 100 o bobl o’r ardal leol a Phrifysgol Caerdydd â thîm y Porth Cymunedol i ddathlu ein gwaith dros y deng mlynedd diwethaf, ac i edrych ymlaen at weld beth sydd i ddod gyda’r prosiect yn y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Mhairi McVicar, Arweinydd Academaidd y Porth Cymunedol: “Yr uchelgais hirdymor yw ehangu'r Porth Cymunedol i ardaloedd eraill o Gaerdydd er mwyn i ragor o gymunedau ddod at ei gilydd ac arwain ar gydweithio rhwng y brifysgol a’r gymuned.”