Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd yn y flwyddyn newydd leuadol i blant ac oedolion ifanc

10 Rhagfyr 2024

 Blwyddyn Tsieineaidd y neidr 2025
Blwyddyn Tsieineaidd y neidr 2025


Mae llawer o wledydd ledled y byd, yn ogystal â Tsieina, yn defnyddio'r calendr lleuadol ac mae pob blwyddyn newydd yn gysylltiedig ag anifail.

2025: Blwyddyn y neidr


Tro’r neidr yw hi yn 2025, ond anifeiliaid doeth, dymunol a gosgeiddig yn hytrach na rhai brawychus yw’r rhain yn astroleg Tsieineaidd. Felly, os cawsoch eich geni yn 2013, 2001 neu 1989 (a phob 12 mlynedd cyn hynny) byddwch yr hyn a elwir weithiau yn Xiaolong neu’n Ddraig Fach ac felly’n rhywun greddfol, strategol a deallus.

Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a Gŵyl y Gwanwyn


Oeddech chi'n gwybod mai dim ond un rhan o ddathliad llawer mwy yw'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd neu'r Flwyddyn Newydd Leuadol?

Mae’r hyn a elwir yn Ŵyl y Gwanwyn yn nodi diwedd y gaeaf a dechrau'r gwanwyn. Gan fod y Tsieineaid yn defnyddio'r calendr lleuadol, mae hyd a dyddiadau'r digwyddiad hwn yn newid bob blwyddyn. Ar gyfartaledd, fodd bynnag, mae'n para 23 diwrnod ac yn dod i ben ar y 15fed diwrnod o'r mis lleuadol cyntaf.

Er mai Yuan Dan 元旦 (Blwyddyn Newydd) yw uchafbwynt yr ŵyl, mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau fel anrhydeddu cyndeidiau, glanhau’r tŷ’n drylwyr, croesawu duw cyfoeth a Gŵyl y Llusernau.

Gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb i blant ac oedolion ifanc

I ddathlu'r adeg unigryw hon o'r flwyddyn, rydym yn gwahodd ysgolion, colegau, addysgwyr yn y cartref a grwpiau o blant sydd â diddordeb arbennig i ddysgu am y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a Gŵyl y Gwanwyn.

Ymunwch â ni ar-lein a/neu wyneb yn wyneb!


Ddydd Llun 27 Ionawr, byddwn yn cynnal Gŵyl Blwyddyn Newydd Tsieineaidd arall ar-lein.

Ers ei sefydlu yn 2022, mae'r gwyliau hyn wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith ysgolion ac mae cannoedd o ddisgyblion ledled Cymru yn cymryd rhan. Yn y gorffennol, mae plant wedi mwynhau ystod o sesiynau byw ac wedi'u recordio gyda thiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd. Maent wedi dysgu am darddiad a thraddodiadau Gŵyl y Gwanwyn; gweithgareddau ymarferol fel gwneud llusernau a chaligraffeg; a dysgu ymadroddion yn Mandarin ar gyfer yr adeg arbennig hon o'r flwyddyn.

Yn 2025, byddwn yn cynnal sesiynau byw ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2 yn ystod y bore, ac ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 1 yn y prynhawn. Bydd y rhain yn cynnwys cyflwyniad i'r ŵyl, dysgu am y Sidydd Tsieineaidd, adrodd straeon, gwneud addurniadau ar gyfer drysau a chlecars tân a mwy!

Os na allwch chi ymuno â sesiynau byw yr ŵyl, bydd recordiadau ohonynt ar gael i'w gwylio yn eich amser eich hun.

Cofrestrwch eich disgyblion ar gyfer Gŵyl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd Ar-lein neu recordiadau o'r sesiynau

Cyrsiau byr ar-lein ac wyneb yn wyneb

Ar gyfer Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2025, byddwn yn lansio ein cwrs chwe wythnos arbennig ar gyfer disgyblion cyfnodau allweddol 3, 4 a 5.

Tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Caerdydd sydd wedi creu’r cwrs yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc hŷn i ddysgu am Tsieina a’i phrif iaith. Bydd un neu ragor o'n tiwtoriaid yn ei addysgu naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein yn eich ysgol. Mae'r chwe sesiwn yn hyblyg, a gellir eu cynnal yn wythnosol neu dros gyfnod penodol o amser fel pythefnos, dau fis neu hyd yn oed dros flwyddyn gyfan.

E-bostiwch confucius@caerdydd.ac.uk i fynegi eich diddordeb neu i ddarganfod mwy.

Fideos am Fywyd yn Tsieina

Yn 2024, creodd tiwtoriaid Confucius Caerdydd nifer o fideos i roi blas go iawn ar fywyd yn Tsieina i blant a phobl ifanc. Os nad ydych wedi eu defnyddio gyda'ch dosbarthiadau eto, ewch ati i’w gwylio ar YouTube.

Adnoddau ychwanegol i yn ogystal â’r fideos

Rhagor o gyfleoedd Gŵyl y Gwanwyn i ysgolion a cholegau

Os yw eich ysgol neu goleg yng Nghaerdydd neu'r cyffiniau, gallwch wneud cais am Ddiwrnod Tsieina arbennig yn eich ysgol.
Ym mhob Diwrnod Tsieina, mae tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd yn cyflwyno sesiynau pwrpasol i ddisgyblion. Yn y gorffennol, mae tiwtoriaid wedi cynnal gweithgareddau sy'n gysylltiedig â Gŵyl y Gwanwyn. Mae’r rhain wedi cynnwys creu addurniadau papur arbennig y Flwyddyn Newydd, dysgu am sut mae'n cael ei ddathlu mewn gwahanol rannau o'r wlad, a hyd yn oed plygu twmplenni Tsieineaidd!

Bydd y digwyddiadau hyn yn dibynnu ar ba staff sydd ar gael. Rhoddir blaenoriaeth i ysgolion yng Nghaerdydd neu'r cyffiniau, yn ogystal â'r rhai sydd heb gynnal Diwrnod Tsieina o'r blaen.

Cyflwyno cais am Ddiwrnod Tsieina Gŵyl y Gwanwyn

Rhagor o fanylion am Ddiwrnodau Tsieina Sefydliad Confucius Caerdydd

Gan fod blwyddyn y neidr, yn ôl pob sôn, yn un o dwf a datblygiad personol, byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o ddechrau Ysgol Ar-lein yn 2025.

Felly, rydym yn gwahodd rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn dysgu Tsieinëeg Mandarin yn annibynnol i ddweud wrthym beth fyddai orau ganddynt, a byddwn yn cysylltu â chi yn y gwanwyn i roi gwybod am y canlyniad.

E-bostiwch confucius@caerdydd.ac.uk i fynegi eich diddordeb mewn dysgu Tsieinëeg Mandarin gyda'n Hysgol Ar-lein.

Digwyddiadau Cymunedol

  • Dydd Sadwrn 1 Chwefror, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, 11am i 3pm – bydd Sefydliad Confucius Caerdydd yn ymuno â staff y Llyfrgell Ganolog a phartneriaid eraill i gynnig gweithgareddau am ddim i bobl o bob oed gan gynnwys cerddoriaeth, sesiynau blas ar iaith, gwneud llusernau a blasu te. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Efallai y bydd angen ichi gadw eich lle mewn rhai gweithgareddau.

Rhannu’r stori hon