Mae'r Uned DPP wedi ennill 25 o nodau cydymffurfio ‘Compliance Plus’, sef ein nifer uchaf erioed, yn dilyn asesiad Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid.
10 Rhagfyr 2024
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod unwaith eto wedi llwyddo yn ein hadolygiad blynyddol Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid© (CSE©), ac o ganlyniad, rydyn ni wedi ennill gwobr ‘Compliance Plus’ newydd, gan gyrraedd cyfanswm o 25 o wobrau.
Rhoddir nod ‘Compliance Plus’ os ystyrir bod y tîm wedi rhagori ar y safon ddisgwyliedig.
Mae’r safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid© yn asesiad cynhwysfawr, wedi’i gefnogi gan Swyddfa’r Cabinet. Bwriad y safon yw profi a thynnu sylw at bob elfen o wasanaeth i sicrhau rhagoriaeth barhaus. Cawsom asesiad llawn yn 2023, gan ennill 2 wobr ‘Compliance Plus’ newydd, gan ddod a’r cyfanswm i 24.
Yn y flwyddyn adolygu hon, er gwaethaf i’r aseswr allanol nodi nad yw cynnig rhagor o nodau ‘Compliance Plus’ fel arfer yn bosibl, ychwanegon ni wobr ychwanegol sef ‘dangos ymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, a chyfleoedd ddatblygu a hyfforddiant i staff’’.
Ychwanegodd Clare Sinclair, Pennaeth yr Uned DPP:
Beth nesaf?
Byddwn ni’n parhau i ddatblygu ar ein llwyddiannau - rydyn ni’n awyddus i glywed eich barn. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau neu sylwadau am ein gwasanaeth, mae croeso i chi anfon adborth aton ni. Bydden ni wrth ein bodd yn gael clywed gennych chi.