Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-lysgennad y Weriniaeth Tsiec yn rhoi sgwrs ddiddorol arbennig i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd

9 Rhagfyr 2024

A large group of people posing for a photo

Ymwelodd cyn Lysgennad y Weriniaeth Tsiec â Phrifysgol Caerdydd i gyflwyno seminar hynod ddiddorol i fyfyrwyr hanes.

Aeth Mr Nick Archer MVO ar y daith arbennig i Gaerdydd i siarad gyda myfyrwyr am rôl llysgennad a’r heriau y mae’n eu cyflwyno cyn rhoi cyfle i’r garfan ofyn unrhyw gwestiynau.

Digwyddodd yr ymweliad oherwydd y dulliau addysgu arloesol o fewn rhaglenni gradd israddedig hanes yn y Brifysgol.

Trwy chwarae rôl fel diplomyddion Tsiecoslofacia, roedd myfyrwyr trydedd flwyddyn wedi'u 'neilltuo' dramor, gyda'u 'dyletswyddau' yn digwydd yn y 1920au a'r 1930au.

Addysgir hanes Tsiecoslofacia trwy seminarau gyda darllen o ffynonellau gwreiddiol yn unig i ddatblygu profiad dysgu dyfnach, empathig gan helpu myfyrwyr i ddeall yr heriau y mae diplomyddion go iawn yn mynd i'r afael â nhw bob dydd.

Fel llysgennad Prydain Ei Mawrhydi i'r Weriniaeth Tsiec rhwng 2018 a 2022, roedd Mr Archer yn wynebu heriau fel Brexit yn ystod Llywyddiaeth y Weriniaeth Tsiec ar Gyngor yr Undeb Ewropeaidd; y pandemig COVID-19; ac yn fwy diweddar, ymosodiad Rwsia ar Wcráin a'i rhyfel dilynol.

Dywedodd Mr Archer, a oedd yn ysgrifennydd preifat cynorthwyol i Dywysog Cymru (sydd bellach yn frenin) yn yr 1990au, “Mae'n braf iawn bod yn ôl. Roeddwn i yng Nghaerdydd ddiwethaf yn gweithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr Masnach a Buddsoddi y DU i helpu cwmnïau Cymreig i ddatblygu eu busnes allforio.

“Rwyf wedi dychwelyd ar yr achlysur arbennig hwn i siarad gyda grŵp o fyfyrwyr blwyddyn olaf sy'n astudio hanes Tsiecoslofacia.

“Roedden nhw’n gynulleidfa wych ac yn gofyn llu o gwestiynau deallus i mi.

“Mae’r hinsawdd ryngwladol bresennol yn heriol iawn, a’n gobaith yw y gall cenedlaethau’r dyfodol ein harwain at flynyddoedd mwy disglair o’n blaenau.”

Gofynnodd y myfyrwyr amrywiaeth o gwestiynau am y rôl, gan gynnwys sut beth yw wythnos waith arferol i lysgennad, sut y deliodd Mr Archer â’r Undeb Ewropeaidd yng nghanol canlyniadau Brexit, a’r ‘rhyfel yn erbyn terfysgaeth’, ymhlith llawer o heriau cyfoes sy’n wynebu Ewrop.

Dywedodd Charlotte Francis, myfyriwr Hanes a Gwleidyddiaeth Fodern (BScEcon), “Dysgais lawer nid yn unig am gyfrifoldebau llysgennad o ddydd i ddydd, ond hefyd am yr agwedd ddiwylliannol o weithio dramor.

“Roedd yn ddiddorol clywed am gyflwr presennol cysylltiadau diplomyddol Tsiec a theimlad rhanbarthol, yn enwedig o ran y gwledydd cyfagos, a sut mae hyn wedi esblygu ers y degawdau yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Roedd sgwrs Mr Archer yn ddylanwadol o ran deall sut mae argyfyngau eang, fel y pandemig COVID-19 ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin, wedi cael eu rheoli’n fyd-eang.

“Roedd hefyd yn ddefnyddiol dysgu pa mor bwysig yw cydweithredu rhyngwladol i ddatrys y materion hyn ac yn benodol rôl llysgenadaethau tramor wrth gyfrannu at sefydlogrwydd gwleidyddol.”

Nododd Charles Mullen, myfyriwr Hanes ac Economeg (BSc) bwysigrwydd seminarau gwadd fel rhan o’i ddysgu, “Maent yn ategu dysgu’n fawr iawn.

“Mae'n wych cael profiad ymarferol yn siarad am faterion cyfoes y byd a chymhwyso gwybodaeth hanesyddol fel cyd-destun iddo. Mewn hanes anaml y byddwn yn astudio materion cyfoes ac mae gweld tebygrwydd a gwahaniaethau yn ddefnyddiol iawn.”

Ychwanegodd Matilda Hamlyn, sy’n astudio Hanes (BA), “Roedd yn ddiddorol clywed gan rywun oedd wedi profi llawer o wahanol swyddi ac a allai siarad am sut yr oedd wedi llywio gwahanol faterion rhyngwladol.

“Mae’r sgyrsiau hyn yn cyfoethogi profiad y myfyriwr yn wirioneddol a thrwy gael y rhain wedi’u hymgorffori yn eich dysgu, rydych chi’n cael addysg lawer mwy cyflawn oherwydd mae’n caniatáu ichi weld yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu o bersbectif gwahanol.”

Dywedodd yr Athro Mary Heimann, “Mae’n hawdd gorsymleiddio’r gorffennol, dychmygu bod neu y dylai’r ffordd gywir o weithredu fod yn amlwg.

Mae trochi myfyrwyr mewn ffynonellau gwreiddiol, heb y 'cymorth', fel petai, o ddarlithoedd neu weithiau eilaidd, a dychmygu eu hunain fel diplomyddion Tsiecoslofacia yn eu hwynebu â'r cymhlethdodau.
Yr Athro Mary Heimann Professor of Modern History, Deputy Head of History

“Roedd yn anrhydedd gwirioneddol i ni gael llysgennad go iawn yn rhoi budd ei brofiadau a’i fewnwelediad ei hun er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth.”

Rhagor o wybodaeth am Mr Archer a'n rhaglenni hanes.

Rhannu’r stori hon