Ewch i’r prif gynnwys

Athro o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi ennill medal fawreddog am ymchwil eithriadol yng Nghymru

6 Rhagfyr 2024

A woman posing for a headshot photo
Credyd Llun: Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi ennill gwobr o fri sy’n dathlu ymchwil ragorol gan fenywod ym myd gwyddoniaeth, meddygaeth, peirianneg, technoleg neu fathemateg.

Cafodd Medal Hoggan Cymdeithas Ddysgedig Cymru ei dyfarnu i’r Athro Susan Baker am gyfraniad rhyngwladol ei gwaith i fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd a newid amgylcheddol.

Roedd ei dull rhyngddisgyblaethol o weithio’n mynd i’r afael â llygredd morol, diogelwch bwyd, adfer cynefinoedd a chadwraeth bioamrywiaeth, ac mae cynaliadwyedd wrth wraidd ei gwaith.

Mae hi wedi gweithio gyda phobl frodorol a chymunedau pysgota i ddefnyddio bioamrywiaeth a chadwraeth i’r eithaf er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Pan enillodd y wobr, dyma a ddywedodd yr Athro Baker:

Rwy’n hynod ddiolchgar am y wobr hon, ac rwy’n falch o fod wedi ennill Medal Frances Hoggan 2024.
Yr Athro Susan Baker Professor

Mae ei dylanwad a’i chydweithio i’w weld yn Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig.

Am bron i 40 mlynedd, mae hi wedi helpu i leisiau o gymunedau amrywiol ledled y byd gael gwrandawiad gan lunwyr polisïau.

Cyn iddi weithio yn y gwyddorau naturiol, bu’r Athro Baker yn ymwneud â’r gwyddorau cymdeithasol, Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg, gan astudio ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon a Sefydliad Prifysgol Ewrop, Fflorens, yr Eidal.

Dechreuodd ei hymchwil amgylcheddol ym maes systemau naturiol yn Sweden ac yn yr Arctig, gan gynnal cyfarfodydd wythnosol gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Ecoleg Planhigion a’r Ysgol Coedwigoedd, gan greu cysylltiadau rhwng y gwyddorau cymdeithasol a naturiol.

Wrth dderbyn y Wobr, gorffennodd drwy ddweud, “Oherwydd fy ymchwil, rwy wedi teithio ledled y byd, ond rwy bob amser wedi dychwelyd i Gymru.

“Wrth dderbyn y fedal hon rwy’n teimlo’n wirioneddol gartrefol yn y wlad sydd wedi fy mabwysiadu, fy nghofleidio a’m croesawu.

“Mae’n arbennig o arwyddocaol imi gael yr anrhydedd hwn gan y genedl gyntaf i fabwysiadu datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor llywodraethu.

“Mae’r gydnabyddiaeth hon gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn symbol o’n hymrwymiad ar y cyd i ddiogelu’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi’r cyfle imi ddysgu a chyfrannu - waeth pa mor gymedrol - at arwain y gymdeithas at ddatblygu cynaliadwy a dyfodol cyfiawn i bobl a byd natur fel ei gilydd.”

Ar hyn o bryd mae hi'n mynd i'r afael â newid hinsawdd, gan weithio ar gyfuno gwybodaeth pobl Sami a’r Inuit yn rhan o lywodraethu defnydd tir yn y rhanbarth panarctig.

Mae3 arall sydd wedi ennill medal gan Brifysgol Caerdydd yn ogystal â’r Athro Baker yn seremoni wobrwyo Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.

Llongyfarchiadau i bob un o’r enillwyr.

Rhagor o wybodaeth am yr Athro Baker.

Rhannu’r stori hon