Myfyrwyr ar drywydd llwyddiant yn Silverstone yng nghystadleuaeth Formula Student AI
13 Rhagfyr 2024

Bydd tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn cystadlu yn Silverstone, cartref digwyddiadau Grand Prix Prydain a MotoGP, mewn cystadleuaeth ryngwladol ar gyfer cerbydau awtonomaidd.
Bydd tîm Rasio Awtonomaidd Prifysgol Caerdydd yn herio timau eraill o bob rhan o’r byd yng nghystadleuaeth Formula Student Artificial Intelligence (FS AI), a gafodd ei lansio yn 2019 gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE).
Mae’r gystadleuaeth flynyddol yn herio myfyrwyr i adeiladu a datblygu’r systemau gyrru i fynd â cherbyd cwbl awtonomaidd o amgylch trac chwedlonol Swydd Northampton.
Yn debyg i gystadleuaeth hylosgi Formula Student IMechE, mae timau'n cystadlu mewn sawl cystadleuaeth â thema awtonomaidd yn ogystal â digwyddiadau sefydlog, lle mae'n rhaid iddyn nhw ddangos eu dealltwriaeth a'u sgiliau datrys ymarferol er mwyn gosod cerbydau awtonomaidd yn rhan o atebion trafnidiaeth yn y dyfodol.
Cafodd tîm Caerdydd ei sefydlu gan fyfyrwyr yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Morgan Burke, Romilly Nash, Dominick George, Fredrick McKay a Simon Clothier.
Yn ôl Pennaeth y Tîm, Morgan, sydd yn ei ail flwyddyn ar y rhaglen Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol (BSc): “Rwy'n ffan enfawr o chwaraeon moduro, felly fe wnes i achub ar y cyfle i ymuno â Rasio Caerdydd - tîm hylosgi Formula Student y Brifysgol. Yn ystod y cyfnod hwn, fe ges i sgwrs gyda Phennaeth y Tîm, Huw Davies, a gyflwynodd fi i gystadleuaeth FS AI. Roeddwn i wrth fy modd â’r syniad o rasio awtonomaidd ar unwaith, ac roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau i ni yn y Brifysgol gystadlu yn y categori hwn.
“Dechreuais i drwy ymchwilio i’r digwyddiad a holi graddedigion o dîm Rasio Awtonomaidd gwreiddiol Caerdydd. Roedden nhw’n hynod barod i helpu ac yn edrych ymlaen at glywed am fy mwriad i'w adfywio. Ac felly, dechreuais i dynnu grŵp craidd o fyfyrwyr angerddol ynghyd.”
Mae pawb wedi’i ysgogi i geisio am y gorau ac yn gweithio’n galed i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth yn Silverstone fis Gorffennaf nesaf. Mae wedi bod yn brofiad cyffrous hyd yn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth allwn ni ei gyflawni wrth i ni ddod â bywyd newydd i Rasio Awtonomaidd Caerdydd.
Ar ôl recriwtio mwy na 30 o aelodau a sicrhau cyllid gan IBM, mae'r tîm bellach yn canolbwyntio ar sicrhau nawdd pellach ar gyfer y gystadleuaeth, a fydd yn cael ei chynnal yr haf nesaf.
Ychwanegodd arweinydd marchnata’r tîm Romilly, sydd yn eu blwyddyn olaf ar y rhaglen Cyfrifiadureg (BSc): “Ym mis Medi roedden ni’n grŵp o bedwar neu bump o fyfyrwyr gyda nod hynod uchelgeisiol.”
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydyn ni wedi adeiladu tîm craidd gwych ac wedi cael ymgyrch recriwtio gychwynnol hynod lwyddiannus gyda dros 50 o ymgeiswyr. Mae ein cynnydd o ran cael noddwyr hefyd yn dyst i ba mor galed mae’r tîm yn gweithio. Mae gennyn ni gefnogaeth gan gwmni technoleg mawr gwerth biliynau o bunnoedd, sef IBM a chefnogaeth hefyd gan The Philharmonic, bar lleol yma yng Nghaerdydd.