Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Caroline Lear yn cael ei phenodi i Bwyllgor Gwyddoniaeth Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol

5 Rhagfyr 2024

Llongyfarchiadau cynnes i'r Athro Caroline Lear, Deon Ymchwil ac Arloesedd Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ar ei phenodiad llwyddiannus i Bwyllgor Gwyddoniaeth Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) sy’n ysgogi buddsoddiad yn y gwyddorau amgylcheddol yn y DU. Trwy fuddsoddi arian cyhoeddus i wyddoniaeth sy'n arwain y byd trwy seilwaith, ymchwil a hyfforddiant, nod NERC yw ein helpu ni i gynnal ein hadnoddau naturiol, ac i elwa ohonyn nhw, gan ragweld ac ymateb i beryglon naturiol a newid yn yr amgylchedd. Y Pwyllgor Gwyddoniaeth yw prif ffynhonnell NERC ar faterion gwyddonol.

A hithau’n aelod o Bwyllgor Gwyddoniaeth NERC, bydd yr Athro Lear yn cefnogi rhagoriaeth a chynaliadwyedd ymhlith cymuned wyddoniaeth y DU, gan fanteisio ar gyfleoedd i wthio ffiniau gwybodaeth. Wedi'i lywio gan flaenoriaethau strategol NERC, bydd yr Athro Lear yn comisiynu ac yn gwerthuso perfformiad ymchwil ac arloesedd, hyfforddiant ôl-raddedig, partneriaethau, ymgysylltu â'r cyhoedd, a gallu cenedlaethol.

Rhannodd yr Athro Lear "Rwy'n gyffrous ac yn anrhydedd cael ymuno â Phwyllgor Gwyddoniaeth NERC. Mae gan NERC rôl ganolog yn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor i helpu i sicrhau bod ymchwil amgylcheddol y DU yn meddu ar yr amrywiaeth a'r cryfder i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol, heddiw ac yn y dyfodol."

Mae gan NERC bum thema allweddol wrth wraidd eu strategaeth pum mlynedd:

  • adeiladu dyfodol gwyrdd,
  • sicrhau byd diogel a gwydn,
  • creu cyfleoedd a gwella canlyniadau i gymunedau,
  • sicrhau iechyd, heneiddio a lles gwell i bawb
  • mynd i'r afael â haint.

Ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor Gwyddoniaeth yn cynnwys 13 aelod o brifysgolion ledled y DU sy'n dod â safbwyntiau strategol eang er mwyn cyflawni'r nodau hyn.

Ochr yn ochr â bod yn Deon Ymchwil ac Arloesi Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, mae'r Athro Lear hefyd yn athro Hinsoddau’r Gorffennol a Newidiadau i Systemau'r Ddaear, ac yn Hyrwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd. Ymhlith ei diddordebau ymchwil y mae hinsoddau’r gorffennol, newidiadau i systemau'r Ddaear, dirprwyon geocemegol, a palaeoeigioneg Cenozoig.

Rhannu’r stori hon