Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Prifysgol Caerdydd yn datgelu strategaethau cyflenwi’r fyddin Rufeinig wedi derbyn grant gwerth €2m

4 Rhagfyr 2024

Dyfarnwyd cyllid i ymchwilydd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd i arwain prosiect yn egluro sut y cafodd y fyddin Rufeinig ei chyflenwi â bwyd, a’r effaith a gafodd hyn ar dirweddau ac economïau ledled Ewrop.

Bydd Grant Atgyfnerthu gwerth €2m gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC), a ddyfarnwyd i’r Athro Richard Madgwick, yn galluogi’r prosiect, Feeding the Roman Army, Making the Empire (FRAME), i ddatgelu’r strategaethau a gefnogodd y cannoedd o filoedd o filwyr Rhufeinig ar draws ffiniau yn Ewrop, o'r Môr Du i Wal Hadrian.

Bydd ymchwilwyr yn ceisio deall sut y gwnaeth y weinyddiaeth Rufeinig oresgyn yr heriau allweddol o fwydo'r fyddin ar draws ffiniau eang a oedd yn amrywiol yn ecolegol ac yn dopograffig.

Bydd y prosiect yn ateb cwestiynau sylfaenol ar lwyddiant a hirhoedledd yr Ymerodraeth Rufeinig, gan dargedu gweddillion bwyd mewn 5 rhanbarth ar y ffin. Trwy gyfuno dadansoddiadau blaengar aml-isotop a gweddillion organig gyda thystiolaeth archaeolegol a hanesyddol, bydd y prosiect yn ail-greu'r deiet milwrol ar draws ffiniau, yn mynd i'r afael â sut y cynhyrchwyd bwyd, y rhwydweithiau a oedd yn cyflenwi’r milwyr a'r effaith a gafodd hyn ar dirweddau ac economïau ffiniau.

Bydd aelodau allweddol y prosiect, Dr Peter Guest (Archaeoleg a Threftadaeth Vianova), Dr Amy Styring (Prifysgol Rhydychen) a Dr Lucy Cramp (Prifysgol Bryste), yn defnyddio dull amlochrog, integredig o drin tystiolaeth.

Meddai Athro Richard Madgwick:

Mae’n anrhydedd enfawr cael grant ERC, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r grŵp eang o gydweithwyr a’m helpodd i roi’r prosiect at ei gilydd.
Yr Athro Richard Madgwick Athro Gwyddoniaeth Archaeolegol

Rwy'n gyffrous iawn am y posibilrwydd o fynd i'r afael â chwestiynau hirsefydlog am yr Ymerodraeth Rufeinig gan ddefnyddio methodoleg newydd FRAME gyda chydweithwyr ledled Ewrop. Rwy’n sicr y bydd yn daith heriol ond gwerth chweil.”

Mae amcanion allweddol y prosiect yn ymwneud ag ail-greu'r deiet milwrol Rhufeinig mewn gwahanol ranbarthau ar y ffin, nodi strategaethau cynhyrchu, sefydlu'r rhwydweithiau cyflenwi sy'n danfon bwyd i bob ffin, ac, yn y pen draw, cynnig dull glasbrint ar gyfer astudio cyflenwad bwyd yn y gorffennol.

Bydd gan y setiau data cymharol mawr, y data mapio newydd a'r fethodoleg integredig fanteision etifeddol ymhell y tu hwnt i archeoleg Rufeinig.

Ychwanegodd Athro Madgwick: “Roedd y prosiect Feeding the Roman Army in Britain , a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, yn allweddol i ddangos potensial y dull hwn, ond mae FRAME yn gwneud llawer, llawer mwy. Mae’n cynnwys ardal ddaearyddol llawer ehangach ac yn asesu cynhyrchiant, cyflenwad ac effaith leol yn fwy cyfannol, gan gynnwys dadansoddi gweddillion planhigion a serameg.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.