Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn ysgogi brwdfrydedd mewn mathemateg ymhlith myfyrwyr ledled Cymru

4 Rhagfyr 2024

Efa Maher, Mathemateg, Ystadegau, ac Ymchwil Gweithredol (BSc), Dr Thomas E Woolley, Darllenydd, a Huw Davies, Arweinydd Cynradd e-sgol

Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth ag e-sgol i ysgogi brwdfrydedd mewn mathemateg ymhlith disgyblion Blwyddyn 5 a 6 ledled Cymru.

Daeth menter E-hangu Gorwelion, rhaglen allgymorth pedair wythnos mewn mathemateg, i gyswllt â thros 400 o ddisgyblion yr wythnos mewn ysgolion ledled Cymru, gan eu helpu i ddarganfod cyffro mathemateg ac i weld pa mor berthnasol ydyw i fywyd bob dydd.

Nod y fenter oedd ysgogi brwdfrydedd dros fathemateg ymhlith dysgwyr ifanc. Cafodd ei datblygu gan Dr Thomas E. Woolley ac Efa Maher, sy’n fyfyriwr Mathemateg, Ystadegaeth ac Ymchwil Weithredol (BSc) yn ei hail flwyddyn.

Trwy gyfres o weithdai ar-lein hwyliog a rhyngweithiol o’r enw Cyfrinachau Curo, edrychodd myfyrwyr ar gysyniadau mathemategol allweddol fel rhesymeg, tebygolrwydd, geometreg, a theori codio, gan weld sut mae modd rhoi’r syniadau hyn ar waith mewn sefyllfaoedd bob dydd fel chwarae gemau.

Roedd y gweithdai yn dangos sut gall mathemateg wneud gemau fel carreg-papur-siswrn, Monopoly, a hyd yn oed y loteri yn fwy cyffrous a strategol.

Ein nod oedd gwneud mathemateg yn ddifyr ac yn hygyrch i ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 ledled Cymru, ac rydyn ni wedi profi pa mor llwyddiannus oedd y dull hwnnw. Mae’r adborth brwdfrydig gan ddisgyblion ac athrawon yn dangos y gall mathemateg ysgogi chwilfrydedd a diddordeb os yw’n cael ei gyflwyno mewn modd diddorol.
Dr Thomas E. Woolley, Darllenydd, Yr Ysgol Mathemateg

“Mae gweld disgyblion yn dysgu am syniadau mathemategol, ond hefyd yn dod o hyd i’w potensial i ddefnyddio mathemateg yn y byd go iawn wedi bod yn brofiad gwerth chweil.”

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i fod yn hygyrch i fyfyrwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Cafodd ei chyflwyno’n ddwyieithog trwy gynnal dwy sesiwn 30 munud bob dydd Mercher, un yn Gymraeg ac un yn Saesneg.

Roedd E-sgol, menter sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n galluogi dysgu hybrid yn ysgolion Cymru, yn cefnogi'r fformat ar-lein. Cymerodd ysgolion ledled Cymru ran yn y gweithgaredd yn rhwydd, gan chwalu rhwystrau daearyddol a phrinder adnoddau.

Roedd y prosiect hwn yn gyfle anhygoel i gysylltu â disgyblion ledled Cymru a rhannu fy mrwdfrydedd dros fathemateg. Mae gweld sut y llwyddodd y gweithdai i ddal sylw'r myfyrwyr wedi bod yn ddiddorol, yn enwedig o ystyried nad oedd llawer ohonyn nhw efallai wedi cael mathemateg i fod yn bwnc difyr neu berthnasol cyn hynny.
Efa Maher, myfyriwr Mathemateg, Ystadegau ac Ymchwil Weithredol (BSc).

“Roedd gallu cyflwyno’n ddwyieithog yn fantais ychwanegol. Roedd hyn yn golygu fy mod i wedi cyrraedd cynulleidfa ehangach fyth ac wedi annog disgyblion o bob cefndir i brofi byd ddiddorol mathemateg.”

Cafodd gweithdai Cyfrinachau Curo eu cynnal rhwng 13 Tachwedd a 4 Rhagfyr 2024. Rhoddodd y fenter gyfle unigryw i ysgogi diddordeb tymor hir mewn pynciau STEM, gan helpu i feithrin cenhedlaeth newydd o ddysgwyr ifanc sy’n ystyried mathemateg i fod yn bwnc hygyrch a chyffrous. Mae'r gweithdai rhithwir ar gael i'w gwylio ar YouTube.

Am ragor o wybodaeth am weithgareddau allgymorth mathemateg ein hysgol, anfonwch e-bost at woolleyt1@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon