Ewch i’r prif gynnwys

Diweddariad ar ein strategaeth a dymuniadau’r Nadolig

3 Rhagfyr 2024

Professor Nicola Innes, Interim Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience
Yr Athro Nicola Innes, Rhag Is-Ganghellor Dros Dro, ar gyfer Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

Darllenwch neges gan Nicola Innes, Rhag Is-Ganghellor Dros Dro, ar gyfer Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr ar 3 Rhagfyr.

Gan fod hwn yn gopi o e-bost a anfonwyd i fyfyrwyr, mae'r dolenni o fewn yr e-bost ar fewnrwyd y myfyrwyr, felly mae angen mewngofnodi i gael mynediad.

Annwyl fyfyriwr,

Rwy'n gobeithio eich bod wedi mwynhau eich semester cyntaf a’ch bod yn edrych ymlaen at egwyl y Nadolig mewn ychydig wythnosau.

Ein dyfodol, gyda’n gilydd

Efallai eich bod yn gwybod bod ein strategaeth uchelgeisiol yn nodi pa fath o brifysgol rydyn ni am fod erbyn 2035, a sut byddwn ni’n cyflawni hynny. Cyfrannodd nifer ohonoch syniadau drwy’r  Sgwrs Fawr, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn amdanyn nhw.

Er mwyn gwireddu'r strategaeth, rhaid i ni fel prifysgol drawsnewid. Rydyn ni ar ddechrau’r daith hon, rhywbeth rydyn ni’n ei galw'n 'mynd i’r afael â’r hanfodion'. A chithau’n fyfyrwyr, mae hyn yn canolbwyntio ar sut rydyn ni’n cynnig y profiad gorau posibl i chi, tra'n sicrhau ein sefydlogrwydd academaidd   ac ariannol yn y tymor hir. Mae cyfraniadau parhaus Undeb y Myfyrwyr at wneud penderfyniadau wedi bod yn hanfodol, fel y mae eu haelodaeth o'r grwpiau sy'n llywodraethu'r newidiadau hyn.

Effaith uniongyrchol y strategaeth ar gyfer chi

Efallai eich bod wedi gweld y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol staff sydd wedi bod ar agor ers yr haf. Rwyf am eich sicrhau y bydd staff dim ond yn gadael drwy'r cynllun hwn pan fydd ychydig iawn o effaith ar eich profiad myfyrwyr, neu ddim o gwbl.

Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gynnig profiad addysgol rhagorol - i chi a myfyrwyr y dyfodol - rydyn ni hefyd yn adolygu'r rhaglenni gradd rydyn ni’n eu cynnig. Mae hyn yn golygu, er na fydd modiwlau yn dod i ben tra bod myfyrwyr presennol yn eu hastudio, efallai na fyddan nhw ar gael i fyfyrwyr newydd y byddwn ni’n eu derbyn.

Y strategaeth hirdymor a'i manteision

Er bod rhai o'r newidiadau hyn yn anodd, maen nhw’n angenrheidiol i'n helpu i ddod yn brifysgol sy'n creu ar y cyd, yn rhannu gwybodaeth newydd ac yn helpu i greu byd gwell i genedlaethau'r dyfodol. Bydd yn ein rhoi mewn gwell sefyllfa i gynnig profiad addysgol rhagorol i fyfyrwyr o bob cefndir, a bod yn brifysgol wirioneddol gynhwysol a gwrth-hiliol.
Rwy'n edrych ymlaen at gychwyn ar y daith hon gyda chi a gweld ei manteision i chi.

Amserlenni arholiadau

Ar nodyn mwy ymarferol, dylai eich amserlen arholiadau fod ar gael nawr ar fewnrwyd y myfyrwyr. Gall arholiadau ac asesiadau fod yn straen felly ewch ati i ofyn am gymorth cyn gynted â phosibl os oes ei angen arnoch. Cadwch lygad am e-bost Newyddion Myfyrwyr arbennig ym mis Ionawr gyda llawer o awgrymiadau, cymorth defnyddiol a nodiadau atgoffa ar ganllawiau asesiadau ac adborth.

Nadolig Llawen

Er gwaethaf yr oerfel, mae wedi bod yn bleser gweld Caerdydd yn dod yn fyw ar gyfer cyfnod y Nadolig. Dyma obeithio y cewch gyfle i fwynhau rhywfaint o'r hyn sydd gan y ddinas i'w gynnig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. P'un a ydych chi’n aros yng Nghaerdydd neu'n mynd i rywle arall dros y gwyliau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio pa wasanaethau’r brifysgol y gallwch chi eu cyrchu o hyd, digwyddiadau i gymryd rhan ynddyn nhw a sut i ddod o hyd i gymorth os oes ei angen arnoch.

Mwyhewch eich gwyliau dros y Nadolig, ac rwy’n edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl yn 2025.

Cofion gorau,  
Nicola

Rhannu’r stori hon