Archifau’r Brifysgol yn Derbyn Achrediad Cenedlaethol
3 Rhagfyr 2024
Mae Llyfrgell Prifysgol Caerdydd wedi derbyn achrediad cenedlaethol, wedi gwerthusiad manwl o’u Casgliadau Arbennig ac Archifau gan dîm o arbenigwyr.
Bydd y gwasanaeth yn ymuno â gwasanaethau fel Yr Archifau Cenedlaethol, Archifau Morgannwg a Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt – gan dderbyn cydnabyddiaeth o’u gwaith mewn gofal casgliadau, cefnogi ymchwil ac ymgysylltu dinesig.
Yn ei adroddiad, dyweda Llywodraeth Cymru fod Llyfrgell Prifysgol Caerdydd yn “archif wedi’i rheoli’n dda, yn ran hanfodol o lyfrgell y brifysgol, wedi’i phoblogi gan dîm proffesiynol, cryf.” gan nodi yn arbennig cryfer eu “rhaglen ymgysylltu gyhoeddus a gweithgareddau ymgysylltu dinesig ardderchog”.
Meddai Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau, Alan Vaughan Hughes:
“Pen llanw blynyddoedd o waith yw hyn. Mae’n faen prawf ystyrlon iawn a mae’n fraint derbyn y gydnabyddiaeth yma.”
“Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau wedi bod yn ‘drysor cudd’ ers amser maith – ond ein gwaith ni yw i oleuo’n casgliadau, i sicrhau bod dim byd ‘cudd’ amdanyn nhw. ‘Dyn ni ar agor i bawb – yma i annog archwilio academaidd, cefnogi cyweithio a hyrwyddo ymgysylltu cyhoeddus.”
Mae’r datganiad heddiw yn dod wedi blwyddyn lwyddiannus i'r gwasanaeth, sydd wedi buddsoddi yn ei is-adeiledd ymchwil, digido a deallusrwydd artiffisial eleni; yn ogystal ag ymddangos ar Antiques Roadshow BBC One, i rannu casgliadau’r brifysgol gyda dros bedair miliwn o wylwyr ar draws y DU.
I ddysgu rhagor am Gasgliadau Arbennig ac Archifau, gan gynnwys ymweld, canllawiau ymchwil a chasgliadau digidol: ymwelwch â gwefan Casgliadau Arbennig.