Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaethau AdvanceHE yn dathlu rhagoriaeth ym maes addysgu

3 Rhagfyr 2024

Jacob Lloyd & Dr Xuan Wang
Jacob Lloyd & Dr Xuan Wang

Mae dau aelod o staff yn yr Ysgol Ieithoedd Modern wedi cael yr anrhydedd o ennill cymrodoriaethau AdvanceHE clodfawr, sy’n dathlu eu cyfraniadau rhagorol i addysgu ym myd addysg uwch.

Mae’r ymchwilydd PhD Jacob Lloyd, sydd hefyd yn addysgu cyrsiau israddedig, wedi’i enwi’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA). Gwnaeth y panel ganmol y canlynol yn ei gylch: ei ymroddiad i ymgysylltu â myfyrwyr, am sefydlu partneriaeth Deallusrwydd Artiffisial i fyfyrwyr, ac am yr adborth disglair a gawsai gan fyfyrwyr. Wrth hel meddyliau am y llwyddiant, dyma a ddywedodd Jacob:

“Mae cydnabod yr holl waith rwy wedi’i wneud i ennill y wobr hon yn golygu cymaint imi, gan nad yw hi wedi bod yn hawdd bob amser i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng astudio a fy nghyfrifoldebau addysgu! Rwy’n falch o fod wedi ennill Cymrodoriaeth Advance HE, gan imi gredu ei bod yn dyst i ba mor angerddol ydw i am addysgu, a fy ngobaith yw y bydd y gymrodoriaeth o gymorth imi ar y daith tuag at ddod yn addysgwr amser llawn.”

Mae Dr Xuan Wang, sy’n Uwch Ddarlithydd, wedi cael ei henwi’n Uwch-gymrawd (SFHEA), a chafodd hi ei chydnabod am ei gwaith addysgu a’i harweinyddiaeth effeithiol ym maes iaith a diwylliant Tsieina. Mae ei hymrwymiad i arferion addysgu arloesol a chydweithio wedi arwain at newidiadau arwyddocaol mewn arferion dysgu ac addysgu oddi mewn i’w disgyblaeth, yn lleol ac yn genedlaethol fel ei gilydd.

Dywedodd Xuan: “Rwy’n falch iawn o allu rhoi SFHEA ar ôl fy enw. Mae’r gydnabyddiaeth ffurfiol hon yn un hynod werthfawr a chalonogol imi, ac mae’r daith wedi dyfnhau fy statws proffesiynol, ac wedi ychwanegu’n gadarnhaol at fy nhyfiant. Byddwn i’n ei argymell yn gryf i gydweithwyr sy’n dymuno ymgysylltu â DPP seiliedig ar ennill profiad a chyfrannu at ragoriaeth ym maes dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Mae'r gwobrau hyn yn amlygu ymrwymiad yr Ysgol i hyrwyddo rhagoriaeth wrth addysgu, ac i ysbrydoli arweinwyr yn y maes hwn.

Rhannu’r stori hon