Arbenigwyr cyllid yn dod at ei gilydd ar gyfer y gynhadledd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)
2 Rhagfyr 2024

Rhwng 7 a 8 Tachwedd 2024, roedd Ysgol Busnes Caerdydd yn falch o gynnal y Gynhadledd Ryngwladol ar 'Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR), yr Economi a Marchnadoedd Ariannol'.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan y Grŵp Ymchwil Llywodraethu Corfforaethol Caerdydd ar y cyd â’r Global Finance Journal, a rhagor o ddigwyddiadau llwyddiannus byd-eang yn Chicago, Tokyo a Düsseldorf.
Uchafbwyntiau'r digwyddiad
Roedd sesiynau sy’n ysgogi’r meddwl gan brif siaradwyr ar y pynciau canlynol:
- Alex Edmans (Ysgol Busnes Llundain): Buddsoddi’n Gyfrifol: Tystiolaeth o’r Maes
- Richard Barker (Prifysgol Rhydychen a Bwrdd Safonau Cynaliadwyedd Rhyngwladol): Pennu Safonau’n Fyd-eang ar gyfer Adrodd ar Gynaliadwyedd
- Amir Amel-Zadeh (Ysgol Busnes Saïd, Rhydychen): Cynaliadwyedd yn y Marchnadoedd Ariannol
Roedd y rhaglen yn cynnwys 36 cyflwyniad, trafodaeth banel ar Gyllid Cynaliadwy gyda chynulleidfa fyw ar-lein o Chicago, a chinio gala i’w gofio yng Nghastell Caerdydd. Roedd y sesiynau'n mynd i'r afael â materion a themâu o bwys, gan gynnwys arloesedd, newid yn yr hinsawdd, cyfarwyddwyr, risg/trychinebau, y cyfryngau a chamymddwyn.
Cafodd sgyrsiau anffurfiol eu cynnal gyda golygyddion cyfnodolion i roi cipolwg unigryw i gyhoeddi academaidd. Roedd y siaradwyr yn cynnwys:
- Amir Amel-Zadeh, European Accounting Review
- Sabri Boubaker, Journal of International Financial Management & Accounting
- Arman Eshraghi, International Review of Economics and Finance
- Ali Fatemi, Global Finance Journal
- Kushti Westwood, Cyhoeddwr, Cyfnodolion Cyllid, Elsevier
Myfyrdodau gan y Cyd-gadeiryddion
"Hoffen ni ddiolch i Ysgol Busnes Caerdydd a’r tîm digwyddiadau am eu cefnogaeth gyson. Roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol a chawson ni adborth cadarnhaol yn enwedig o ran cyfleusterau, lletygarwch ac ansawdd y drafodaeth academaidd yn ystod y gynhadledd."
"Diolch i bawb a ddaeth i’r gynhadledd o holl adrannau ac ysgolion Prifysgol Caerdydd Mae ein cyflawniadau ymchwil dylanwadol yn cael eu cydnabod gan ysgolheigion rhyngwladol blaenllaw."
Rhagor o wybodaeth am Grŵp Ymchwil Llywodraethu Corfforaethol Caerdydd.
