Ewch i’r prif gynnwys

Mae Athro wedi derbyn gwobr cyflawniad oes am waith arloesol ym maes geneteg seiciatrig

2 Rhagfyr 2024

Mae'r Athro Anita Thapar, seiciatrydd plant a phobl ifanc blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Oes Ming Tsuang gan y Gymdeithas Ryngwladol Geneteg Seiciatrig (ISPG).

Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniadau eithriadol Anita at faes geneteg seiciatrig a'i hymrwymiad i wella dealltwriaeth o ofal iechyd meddwl ymysg pobl ifanc.

Gwnaeth yr Athro Thapar gychwyn ei gyrfa ym maes seiciatreg a geneteg drwy wneud cymrodoriaeth PhD, lle cynhaliodd hi ymchwil arloesol ar gyflyrau iechyd meddwl ymysg plant a phobl ifanc, gan gynnwys iselder, gorbryder, ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD). Hi a greodd cofrestr unigryw o efeilliaid, ac mae hi wedi’i defnyddio i gynnal astudiaethau cynnar pwysig sy'n dangos cyfraddau uchel o eitfeddu ADHD, gan sbarduno ei diddordeb parhaus mewn ffactorau genetig ym maes iechyd meddwl pobl ifanc.

“Anrhydedd o’r mwyaf oedd cael gwaith y tîm a wnaed dros y flynyddoedd ei gydnabod yn y fath modd.”
Yr Athro Anita Thapar Clinical Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Mae'r Athro Thapar, sy’n gweithio yn Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi arwain astudiaethau o bwys sydd wedi datblygu ein dealltwriaeth o'r cysylltiadau genetig rhwng ADHD, iselder, a chyflyrau iechyd meddwl eraill. Cyfrannodd at un o'r astudiaethau genomau mwyaf cynnar ar ADHD, a chanfuodd y nodweddion genetig hynny sy’n gorgyffwrdd rhwng ADHD ac awtistiaeth. Gwnaeth ei gwaith dorri tir newydd, yn enwedig ar adeg pan ystyriwyd esboniadau genetig am ddatblygiad ADHD yn rhai dadleuol ymhlith nifer fawr o ymchwilwyr yn y maes.

Y tu hwnt i'w gwaith ymchwil, mae'r Athro Thapar wedi cael dylanwad cryf ar ymarfer clinigol a pholisi clinigol. Roedd ei chanfyddiadau ar y cysylltiadau genetig a chlinigol ynghylch datblygiad ADHD, awtistiaeth, a chyflyrau datblygiadol eraill wedi ei dylanwadu i eirioli dros wasanaethau ddatblygiadol integredig yng Nghymru.

Yr Athro Thapar sy'n arwain Tîm Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig. Mae hi hefyd yn unigolyn pwysig yng Nghanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, a gafodd grant o £10 miliwn gan Sefydliad Wolfson er mwyn hyrwyddo gwaith ymchwil ar iselder mewn pobl ifanc a datblygiad hirdymor cyflyrau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc.

Mae Gwobr Cyflawniad Oes Ming Tsuang yn dathlu gwaith arloesol yr Athro Thapar ym maes geneteg seiciatrig a'i hymrwymiad i ymchwil sy'n gwella ein dealltwriaeth o bobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd meddwl a’r gofal maen nhw’n ei gael. Something about being proud as a centre to have her be part?

Mae cydnabod yr Athro Thapar drwy roi Gwobr Cyflawniad Oes Ming Tsuang iddi yn adeg falch i’r Ganolfan Wolfson.

"Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â'r Athro Anita Thapar, a hynny wrth inni arwain y gwaith o ymchwilio i’r rôl y mae ffactorau genetig ac amgylcheddol yn ei chwarae mewn deall cyflyrau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc.”
Yr Athro Frances Rice Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences