COP16 – Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth
2 Rhagfyr 2024
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2830360/biodiversity-heritage.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn helpu i fynd i’r afael â heriau bioamrywiaeth, a chafodd ymchwil hollbwysig i fioamrywiaeth ei harddangos ganddyn nhw yn sesiwn rhif 16 o Gynhadledd y Pleidiau (COP16) yn Cali, Colombia.
Canolbwyntiodd COP16 yn 2024 ar atal a gwrthdroi’r golled mewn bioamrywiaeth a diraddiad ecosystemau. Cafodd Dr Isa-Rita Russo o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd ei gwahodd i COP16 i rannu ymchwil i amrywiaeth genetig, er mwyn helpu i sicrhau ecosystemau gwydn a chefnogi gwasanaethau ecosystem ar gyfer y dyfodol.
Drwy warchod amrywiaeth genetig, gallwn ni helpu i greu a chefnogi ecosystemau gwydn a fydd yn atal rhagor o fioamrywiaeth rhag cael ei cholli ac yn gobeithio sicrhau ecosystemau sefydlog.
"Drwy gyflwyniadau, astudiaethau achos a sgyrsiau, gwnaethon ni drafod pwysigrwydd amrywiaeth genetig, gan ymchwilio i’r dangosyddion dichonadwy a fforddiadwy ar gyfer amrywiaeth genetig a gafodd eu mabwysiadu ym mis Rhagfyr 2022 (COP15) gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn rhan o Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kumming-Montreal.
“Ein nod yw dangos bod monitro ac adrodd ar statws a chadwraeth amrywiaeth genetig yn ddichonadwy ac yn angenrheidiol i sicrhau dyfodol bioamrywiol,” ychwanegodd Dr Russo.
COP16, a gafodd ei chynnal rhwng 21 Hydref 2024 a 1 Tachwedd 2024 yw cyfarfod rhif 16 y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Cafodd COP16 ei chynnal gan Lywodraeth Colombia yn Cali – dinas yn un o ranbarthau mwyaf bioamrywiol y byd.
Colli bioamrywiaeth yw un o heriau byd-eang mwyaf ein hoes. Rydyn ni’n gweld cynefinoedd yn cael eu colli, rhywogaethau’n diflannu ac ecosystemau’n cael eu difrodi. Mae bioamrywiaeth yn hanfodol ar gyfer bywyd ar y Ddaear, a bydd mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth yn hollbwysig i ymladd newid yn yr hinsawdd. Drwy rannu ein hymchwil, gobeithio y gallwn ni helpu i gynnig rhai atebion i fynd i’r afael â cholli amrywiaeth.
Ariannwyd presenoldeb Dr Isa-Rita Russo yn COP16 gan gynllun Lleoliadau a Secondiadau Cyfnewid Gwybodaeth Cyfrif Cyflymu Effaith BBSRC.