Ewch i’r prif gynnwys

Cryfhau’r cwlwm gyda Chasachstan

2 Rhagfyr 2024

Medic Lecture Theatre
Main lecture theatre

Mae Prifysgol Caerdydd mewn trafodaethau i agor ei changen dramor gyntaf yn Casachstan.

Campws modern i astudio rhaglenni gradd mewn pynciau allweddol yn ogystal â gwneud ymchwil wyddonol arloesol a phrosiectau rhyngwladol fydd y gangen newydd yn Astana, prifddinas y wlad.

Dyma'r tro cyntaf i brifysgol sy’n rhan o Grŵp Russell weithredu yng Nghasachstan, a disgwylir i’r gangen ddenu arbenigwyr blaenllaw i addysgu myfyrwyr. Dyma gam pwysig i sicrhau twf economaidd Astana a'r rhanbarth ehangach.

Dyma a ddywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at barhau â’n trafodaethau ynghylch sefydlu campws yn Astana. Yn aml, gall prosiectau ar y cyd rhwng prifysgolion gryfhau'r cwlwm rhwng dwy wlad.

“Yn ein barn ni, cam cyntaf mewn perthynas hir a ffyniannus gyda Chasachstan a'i phobl yw cyflwyno rhaglenni addysg yno.

“Mae ein hymrwymiad i gyflwyno addysg rhagorol ledled y byd yn rhan allweddol o'n strategaeth newydd – Ein Dyfodol, Gyda'n Gilydd – a bydd y prosiect hwn ar y cyd yn rhan o rwydwaith o bartneriaethau addysg drawswladol rydyn ni'n eu hystyried yn ddwys.”

Bydd y gangen newydd yn cynnig rhaglenni gradd mewn meysydd y mae galw mawr amdanyn nhw, gan gynnwys addysg, peirianneg, a TG.

Bydd ffocws arbennig hefyd ar raglenni daeareg ac ynni adnewyddadwy – sef, meysydd o gryn bwys i Gasachstan a'r rhanbarth.

Y nod, yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy cynhwysfawr, yw cyflwyno rhaglenni addysg yn Astana o fis Medi 2025 ymlaen.