Mae RemakerSpace yn sicrhau cyllid i ddatblygu modelau hyfforddiant deintyddol cynaliadwy
29 Tachwedd 2024
Mae RemakerSpace wedi derbyn £48,000 o gronfa Cymorth Arloesi Hyblyg SMART Llywodraeth Cymru i gydweithio ag Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd i greu modelau hyfforddi y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer llawdriniaeth y geg.
Nod y prosiect arloesol hwn yw mynd i'r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mewn hyfforddiant deintyddol.
Bydd y fenter, sy’n cynnwys GIG Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol Deintyddiaeth Caerdydd ac Ysgol Beirianneg Caerdydd, yn cynnal ymchwil marchnad, asesiadau cylch bywyd, a phrototeipio. Mae'n adeiladu ar flwyddyn o ymchwil cychwynnol gan y timau RemakerSpace a deintyddiaeth a bydd hefyd yn ymchwilio i ddichonoldeb defnyddio deunyddiau tebyg ar gyfer modelau hyfforddi llawfeddygaeth trawma gyda meddygon orthopedig.
Ar hyn o bryd, mae hyfforddiant deintyddol yn dibynnu ar gelanedd anifeiliaid a modelau plastig untro, sy'n codi pryderon moesegol ac yn cynhyrchu gwastraff sylweddol. Gyda gwasanaethau deintyddol y GIG yn cyfrif am 3% o ôl troed carbon y GIG, disgwylir i'r modelau amldro hyn dorri costau, lleihau allyriadau, a chynnig dewis amgen mwy cynaliadwy.
Meddai’r Athro Daniel Eyers, Cyd-gyfarwyddwr RemakerSpace: “Rydyn ni wrth ein bodd bod cydweithwyr o dri choleg y brifysgol yn cymryd rhan yn y prosiect hwn. Mae eu harbenigedd yn amhrisiadwy wrth ddatblygu model hyfforddi newydd sydd nid yn unig yn gwella ansawdd addysg ddeintyddol, ond sydd hefyd yn cynnig manteision amgylcheddol sylweddol. Mae’r cydweithrediad hwn yn tanlinellu ymrwymiad RemakerSpace i gynaliadwyedd ac arloesi.”
Ychwanegodd yr Athro Vas Sivarajasingam, Cyfarwyddwr Clinigol, Ysbyty Deintyddol y Brifysgol: “Rydyn ni’n falch o gyhoeddi’r cydweithrediad hwn rhwng Ysbyty Deintyddol y Brifysgol (UDH) ac Ysgol a RemakerSpace, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu a phrofi modelau 3D ar gyfer addysg ddeintyddol israddedig ac ôl-raddedig. Trwy ddefnyddio modelau claf-benodol, gall myfyrwyr efelychu cymorthfeydd, ymarfer technegau adferol, ac archwilio anatomeg mewn ffordd sy'n gwella eu sgiliau technegol a diagnostig. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ategu gan ymrwymiad yr UDH a’r Ysgol ar gynaliadwyedd ac mae’n cyd-fynd â’n gwaith gyda Chomisiwn Bevan.”
Mae'r Ysgol Deintyddiaeth ac Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yng Nghaerdydd, yr unig ysgol ddeintyddol ac ysbyty yng Nghymru, yn hyfforddi dros 350 o fyfyrwyr a hyfforddeion. Yn rhan o'r prosiect, bydd myfyrwyr deintyddol y bedwaredd flwyddyn yn ymuno â sesiwn hyfforddi yn ddiweddarach y mis hwn yn RemakerSpace lle byddan nhw’n dysgu am argraffu 3D a chynaliadwyedd mewn gofal iechyd.
Mae’r cyllid hwn yn garreg filltir arall yn y bartneriaeth barhaus rhwng RemakerSpace a’r Ysgol Deintyddiaeth, gan baratoi’r ffordd ar gyfer dulliau hyfforddi deintyddol mwy cynaliadwy a chost-effeithiol sy’n cyd-fynd ag egwyddorion yr economi gylchol.
Dyma a ddywedodd James Field, Athro Deintyddiaeth Adferol ac Addysg Ddeintyddol: "Mae gweithio gyda chydweithwyr yn RemakerSpace yn ein galluogi ni i gryfhau'r hyn rydyn ni’n ei gynnig ymhellach wrth inni baratoi myfyrwyr i ymarfer yn gynaliadwy. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi’r cyfle i'n myfyrwyr ddeall cyd-destun ehangach cynaliadwyedd ac economïau cylchol yn well, a hynny er mwyn iddyn nhw allu bod yn eiriol dros newid, a’i hyrwyddo, mewn ystod o amgylcheddau Gwaith."
Sefydlwyd RemakerSpace gyda chefnogaeth Cronfa Gyfalaf Economi Gylchol Llywodraeth Cymru a chyfraniad sylweddol gan Ysgol Busnes Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae RemakerSpace yn cefnogi grwpiau cymunedol, sefydliadau addysgol, a busnesau, cysylltwch â Rheolwr y Ganolfan, Rebecca Travers.