Crynhoad o Ddigwyddiadau Rhwydweithio Cyn-fyfyrwyr
29 Tachwedd 2024
Dros yr wythnosau diwethaf, mae wedi bod yn gyfnod prysur i’n cyn-fyfyrwyr, gyda digwyddiadau cymdeithasol yn digwydd yng Nghaerdydd, Tokyo, Llundain ac India.
Dathliadau pen-blwydd yr Ysgol Deintyddiaeth
Yn ôl ym mis Medi, fe ddaeth cyn-fyfyrwyr, staff a chyfeillion yr Ysgol Deintyddiaeth ynghyd i ddathlu’r ysgol troi’n 60 oed, a 50 mlynedd ers sefydlu’r rhaglen MSc Orthodonteg. Cynhaliwyd diwrnod darlith yng nghwmni siaradwyr gwadd ysbrydoledig, wedi’i ddilyn gan noson o gerddoriaeth fyw a lluniaeth.
Lansio canghennau newydd yn India
Ym mis Tachwedd, gwnaethon ni lansio Canghennau Cyn-fyfyrwyr newydd ym Mumbai a New Delhi - y rhai mwyaf diweddar i gael eu hychwanegu at ein teulu byd-eang o Ganghennau Cyn-fyfyrwyr. Gyda’r Athro Eleri Rosier, Deon India, a'r Athro Tim Edwards, Deon newydd Ysgol Busnes Caerdydd, yn bresennol ynddyn nhw, fe wnaeth y digwyddiadau roi’r cyfle i’n cyn-fyfyrwyr yn India ail-gysylltu, rhwydweithio, a rhannu eu hatgofion o Brifysgol Caerdydd.
Ymunwch â'n cymuned WhatsApp India neu grŵp ar LinkedIn Mumbai neu New Delhi i rwydweithio ag aelodau eraill.
Noson dafarn yn Tokyo
Yn Tokyo, gwnaeth ein Cangen yn Siapan gwrdd am noson mewn Tafarn Brydeinig, a wnaeth eu hatgoffa o nosweithiau allan yng Nghaerdydd. Ymunwch â'n grŵp Facebook Siapan, neu’r grŵp preifat ar LinkedIn i rwydweithio ag aelodau eraill.
Diodydd ar ôl y gwaith yn Llundain
Gwnaethon ni hefyd gynnal digwyddiad diodydd ôl-waith i gyn-fyfyrwyr yn Llundain, gan roi’r cyfle iddyn nhw rwydweithio a chlywed rhagor am yr hyn sy'n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
I glywed am ddigwyddiadau cyn-fyfyrwyr sydd ar ddod, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i gael eich e-gylchlythyr misol i gyn-fyfyrwyr.