Symposiwm Seiberffeministiaeth yn Rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica
26 Tachwedd 2024
Yn ddiweddar, cynhaliodd Dr Balsam Mustafa o’r Ysgol Ieithoedd Modern Symposiwm Seiberffeministiaeth yn Rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, wedi'i gefnogi gan Ymddiriedolaeth Leverhume.
Pwrpas y symposiwm oedd dechrau pontio'r bwlch rhwng ysgolheictod a actifiaeth ffeministaidd, gan ganolbwyntio ar seiberffeministiaeth yn gysyniad ac arferiad yn Rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA).
Roedd y digwyddiad yn cynnwys darlithoedd a chyflwyniadau gan 7 ysgolhaig, gyda rhai yn teithio o ledled Rhanbarth MENA i gymryd rhan. Roedd hyn yn cynnwys yr Athro Amel Grami (Tunisia) a Dr Wafa Khalfan (Yr Emiradau Arabaidd Unedig). Rhoddodd Dr Sahar Khamis hefyd gyflwyniad yn y digwyddiad o bell o UDA.
Cafwyd dau brif gyflwyniad gan yr Athro Amel Grami, a roddodd gyflwynodd ar Seiberffeministiaid Arabaidd yn Wynebu Heriau Newydd, a Dr Sahar Khamis a drafododd O’r Gwanwyn Arabaidd i Gaza: Tueddiadau Newidiol mewn Seiberffeministiaeth yn Rhanbarth Newidiol y Dwyrain Canol.
Roedd y pynciau a’r cyflwynwyr eraill a oedd yn y digwyddiad yn cynnwys:
- Mannau Diogel: Seiberffeministiaeth a'r Wladwriaeth yn yr Aifft yn 2020 - Reem Awny Abuzaid (Prifysgol Warwick)
- Dad-flaenoriaethu’r Bwlch rhwng y Rhywiau: Ymchwilio i Seiberffeminyddiaeth yn yr Emiradau Arabaidd Unedig Mewn Safleoedd Byd-eang a Gwahaniaethau Lleol - Dr Wafa Khalfan (Prifysgol Sharjah)
- Y Fi, y Ni, a'r Nhw: Trin a thrafod Creu Hunaniaeth mewn Actifiaeth Ryweddol Ddigidol yn Rhanbarth MENA - Bronwen Mehta (Prifysgol Warwick)
- Ail-lunio Mudiad y Menywod: Dylanwadwyr Ffeminyddol a Llafur Affeithiol yn yr Iran Gyfoes - Azadeh Shamsi (Canolfan Uwchefrydiau’r Rhyngrwyd (CAIS))
- Mapio Actifiaeth Ffeministaidd Ddigidol yn Iran: Dull Ethnograffig Symudol Aml-safle - Dr Mitra Shamsi (Canolfan Uwchefrydiau’r Rhyngrwyd (CAIS))
Daeth y symposiwm i ben gyda chylch trafod ar-lein arbennig yn cynnwys actifyddion ffeministaidd Iracaidd.
Myfyriodd Dr Balsam Mustafa, a drefnodd y digwyddiad, ar y diwrnod gan ddweud: "Rhoddodd y symposiwm gyfle unigryw i gael cyfarfod yr oedd mawr ei angen rhwng ymchwilwyr ffeministaidd ac actifyddion ar sut i gynhyrchu gwybodaeth ffeministaidd ar y cyd yn y rhanbarth ac oddi yno."