Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglenni BA ac MA Athroniaeth newydd ac arloesol wedi’u lansio

26 Tachwedd 2024

Two students talking to each other

Mae athroniaeth bob amser wedi rhoi sylw i’r problemau mawr sy’n ymwneud â natur ddynol a'n lle yn y byd. Mae rhaglenni newydd yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn cyfeirio'r pwnc hynafol a pharhaus hwn yn uniongyrchol at y problemau y mae cymdeithas yn eu hwynebu heddiw.

Yn ogystal â chanolbwyntio’n draddodiadol ar y problemau craidd sy'n diffinio'r ddisgyblaeth a sut mae'r meddyliau gorau wedi mynd i'r afael â nhw, bydd myfyrwyr Athroniaeth yn yr ysgol yn dysgu sut i gyfleu syniadau cymhleth mewn amrywiaeth o wahanol fformatau. Byddan nhw hefyd yn trin a thrafod sut y gall athroniaeth lywio penderfyniadau ar y cyd mewn busnesau, mewn elusennau ac yn y llywodraeth.

Dywedodd Dr Anneli Jefferson, Cyfarwyddwr Astudiaethau Athroniaeth: "Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnig rhaglenni sy'n cyfuno’r broses o astudio cwestiynau athronyddol yn drylwyr â’r broses o ddefnyddio meddwl a syniadau athronyddol yn y byd go iawn. Mae hyn yn amrywio o ddatblygu'r gallu i ysgrifennu'n effeithiol ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol i feddwl am argymhellion ar gyfer polisïau sy’n mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol presennol."

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pum rhaglen Athroniaeth israddedig. Yn ogystal â'r rhaglen Athroniaeth (BA) anrhydedd sengl, mae pedair rhaglen gydanrhydedd ar gael: Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth (BA); Athroniaeth ac Ieithyddiaeth (BA); Athroniaeth a Gwleidyddiaeth (BA); Crefydd, Athroniaeth a Moeseg (BA); a Chymraeg ac Athroniaeth (BA).

Mae'r pum rhaglen yn fodd i ymarfer a chael hyfforddiant ar wahanol fathau o gyfathrebu, gwneud penderfyniadau ar y cyd a defnyddio sgiliau a gwybodaeth athronyddol i lywio penderfyniadau strategol a pholisi. Mae pob un yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ar hyn o bryd, gyda'r carfannau cyntaf yn dechrau ym mis Medi 2025.

Mae’r myfyrwyr yng ngharfan gyntaf y rhaglen meistr newydd yn canolbwyntio ar fireinio eu gwybodaeth a'u sgiliau athronyddol. Y semester nesaf, ochr yn ochr ag astudio gwaith cyfoes ym maes athroniaeth, byddan nhw’n dysgu sut i gynnwys athronwyr academaidd mewn trafodaethau cydweithredol ag aelodau o broffesiynau eraill i fynd i'r afael â phryderon cyffredin.

Meddai Dr Lucy Osler, Cyfarwyddwr Athroniaeth (MA): "Mae ein rhaglen MA yn pwysleisio mai ymdrech ar y cyd yw athroniaeth sy'n cysylltu ein myfyrwyr â'i gilydd a'r byd y tu hwnt i'r byd academaidd. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n myfyrwyr y tymor nesaf ar eu syniadau ar gyfer digwyddiadau gyda phartneriaid allanol, gan drin a thrafod sut y gallwn ni roi athroniaeth ar waith."

Rhannu’r stori hon