Canllaw newydd yn helpu busnesau bach a chanolig i oresgyn rhwystrau gwerth cymdeithasol yn y broses gaffael
25 Tachwedd 2024
Mae canllaw cynhwysfawr newydd wedi cael ei lansio i helpu Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) ac awdurdodau caffael i wreiddio gwerth cymdeithasol yn yr hyn y mae eu busnesau yn ei wneud.
Nod y canllaw, a gafodd ei ddatblygu gan Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi ar y cyd ag Ysgol Busnes Caerdydd, a'i gyflwyno gan Action Sustainability yw cefnogi busnesau bach a chanolig i greu gwerth cymdeithasol wrth ymgymryd â phrosesau caffael yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Pam mae busnesau bach a chanolig yn wynebu rhwystrau wrth gynnig gwerth cymdeithasol
Er eu bod yn cynrychioli 99.9% o fusnesau'r DU a chyfrannu'n sylweddol at gyflogaeth, mae busnesau bach a chanolig yn aml yn cael trafferth ymgorffori gwerth cymdeithasol yn yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Mae adnoddau cyfyngedig, prosesau caffael cymhleth, a diffyg canllawiau clir yn aml yn atal busnesau bach a chanolig rhag gwireddu eu heffaith gymdeithasol, amgylcheddol a chymunedol yn llawn.
I fynd i'r afael â'r heriau hyn, mae'r canllaw newydd, Ymgorffori Gwerth Cymdeithasol Yn y Broses Gaffael: Canllaw ymarferol ar gyfer busnesau bach a chanolig, yn cynnig strategaethau, adnoddau a chipolygon y mae modd eu rhoi ar waith i fusnesau bach a chanolig i'w helpu i ddeall gwerth cymdeithasol a’u cyflwyno yn effeithiol.
Grymuso busnesau bach a chanolig gydag adnoddau ymarferol i gyflawni gwerth cymdeithasol
Mae'r canllaw yn cynnig amrywiaeth o adnoddau ymarferol i fusnesau bach a chanolig, gan gynnwys:
- rhestr wirio er mwyn iddyn nhw integreiddio gwerth cymdeithasol yn yr hyn y maen nhw’n ei wneud
- strategaethau ar gyfer goresgyn heriau cyffredin megis adnoddau cyfyngedig a diffyg dealltwriaeth
- cyngor ar alinio gwerth cymdeithasol ag anghenion y gymuned leol a nodau busnes
- argymhellion ar gyfer awdurdodau caffael ar sut i ymgysylltu â busnesau bach a chanolig i sicrhau'r effaith gymdeithasol fwyaf yn eu prosesau caffael.
“Wrth i fusnesau bach a chanolig lunio dyfodol ein heconomi yn gynyddol, mae'n hanfodol bod eu cyfraniadau at werth cymdeithasol yn cael eu cydnabod a'u hymgorffori mewn arferion caffael,” meddai Vaishali Baid, Arweinydd Gwerth Cymdeithasol ac Uwch Ymgynghorydd, Caffael Cynaliadwy yn Action Sustainability. “Mae'r canllaw hwn yn rhoi'r adnoddau a'r strategaethau i fusnesau bach a chanolig i ymgorffori gwerth cymdeithasol yn yr hyn y maen nhw’n ei wneud, gan greu buddion hirdymor yn y pen draw i'w busnesau a'r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.”
Wedi'i lywio gan ymchwil ac arferion gorau'r diwydiant
Mae'r canllaw yn defnyddio ymchwil helaeth, gan gynnwys arolygon a thrafodaethau grwpiau ffocws gyda busnesau bach a chanolig yn sectorau amrywiol megis peirianneg sifil, y diwydiant rheilffyrdd, seilwaith a gweithgynhyrchu. Mae hefyd yn cynnwys cipolygon o arferion gorau'r diwydiant, gan dynnu sylw at ddulliau y gall busnesau bach a chanolig eu defnyddio i ymgysylltu yn lleol, creu swyddi, a mabwysiadu arferion cynaliadwy.
Wrth i awdurdodau caffael alinio penderfyniadau prynu fwyfwy â nodau gwerth cymdeithasol, mae busnesau bach a chanolig mewn sefyllfa unigryw i ysgogi newid cadarnhaol yn eu cymunedau. Fodd bynnag, gall heriau presennol megis adnoddau cyfyngedig a phrosesau caffael cymhleth rwystro ymdrechion busnesau bach a chanolig. Nod y canllaw hwn yw cefnogi busnesau bach a chanolig wrth oresgyn y rhwystrau hyn ac i gael effaith ystyrlon.
Gael gafael ar y canllaw llawn ac adnoddau gwerth cymdeithasol ychwanegol.