Mae trin bwlio ar y sail ei bod yn broblem i bawb yn lleihau nifer yr achosion mewn ysgolion cynradd
25 Tachwedd 2024
Gall trin bwlio ar y sail ei bod yn broblem i bawb yn lleihau bwlio hyd at 13%, yn ôl ymchwil newydd.
Mae'r treial mwyaf o'i fath yn y DU wedi dangos sut y gall rhaglen gwrthfwlio cost isel a strwythuredig wella deinameg gymdeithasol mewn ysgolion cynradd a lleihau achosion o erledigaeth.
Rhaglen gwrthfwlio yn y Ffindir sy'n canolbwyntio ar ymddygiad pob plentyn ac yn pwysleisio'r rôl y gall gwylwyr ar y cyrion ei chwarae yw Kiusaamista Vastaan, neu 'KiVa'. Mae'r model yn amlygu bod gan blant sy'n bresennol, ond heb ymwneud yn uniongyrchol â digwyddiadau bwlio - rôl bwysig i'w chwarae wrth amddiffyn y dioddefwr, gwneud bwlio yn llai derbyniol yn gymdeithasol a lleihau cymhelliant bwlis.
Mewn treial blwyddyn o hyd, dan arweiniad Prifysgol Bangor ac a reolwyd gan Ganolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd, rhoddwyd rhaglen KiVa ar waith mewn mwy na 100 o ysgolion cynradd yng Nghymru a Lloegr a chymerodd mwy na 11,000 o fyfyrwyr ran ynddi.
Canfu'r ymchwilwyr fod rhaglen KiVa wedi lleihau achosion o fwlio yn sylweddol, gan leihau'r tebygolrwydd y bydd plant yn rhoi gwybod am fwlio 13%, o'i gymharu ag ysgolion sy’n defnyddio gweithdrefnau safonol.
Dywedodd yr ysgolion fod eu plant yn cydymdeimlo’n fwy â dioddefwyr a bod problemau plant gyda phlant eraill wedi mynd yn llai. Roedd y rhaglen yr un mor effeithiol mewn ysgolion sy’n amrywio’n economaidd-gymdeithasol yn ogystal ag ysgolion gwledig bach a rhai mawr a threfol.
Canfu dadansoddiadau economaidd gan economegwyr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Bangor fod KiVa hefyd yn ymyrraeth cost isel, sy'n arbennig o bwysig o ystyried cyfyngiadau cyllidebol ysgolion.
Yr ymchwil yw'r hap-dreial rheoledig mwyaf hyd yma o raglen KiVa y tu allan i'r Ffindir, a chymerodd 118 o ysgolion ledled Cymru a Lloegr ran ynddi.
Dyma a ddywedodd Lucy Bowes, Athro Seicopatholeg ym Mhrifysgol Rhydychen: "Hwyrach y bydd cael eich bwlio yn arwain at ganlyniadau dinistriol yn achos plant a phobl ifanc, gan gynnwys cynyddu'r risg o anawsterau iechyd meddwl megis gorbryder neu iselder, yn ogystal â deilliannau gwael yn yr ysgol. Mae hyn yn golygu bod unrhyw welliant yn werth chweil a gall hyd yn oed newidiadau canrannol bach gael effaith sylweddol ar y plant unigol hynny a bydd hyn yn gwella'r sefyllfa yn yr ysgol dros gyfnod o amser.
"Mae data'r Ffindir yn dangos gwelliannau y naill flwyddyn ar ôl y llall dros gyfnod o saith mlynedd yn yr ysgolion sy'n parhau â'r rhaglen. Mae mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion yn bryder iechyd cyhoeddus o bwys, ac mae gwerthuso rhaglenni gwrthfwlio a ddefnyddir yn ein hysgolion yn hollbwysig."
Cyhoeddwyd yr ymchwil, ‘The effects and costs of an anti-bullying programme (KiVa) in UK primary schools: a multicentre cluster randomised controlled trial’ yn y cyfnodolyn Psychological Medicine. Ariannwyd yr astudiaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Arweiniwyd y prosiect gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Prifysgol Caerwysg, Rhydychen, Warwick a Birmingham. Rheolwyd y treial gan y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd.