Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth Caerdydd

18 Medi 2024

Female customer service assistant smiling at a customer. She is standing behind a desk. Two people are just in shot.

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig sy'n dychwelyd ar 18 Medi.

Gan fod hwn yn gopi o e-bost a anfonwyd i fyfyrwyr, mae'r dolenni o fewn yr e-bost ar fewnrwyd y myfyrwyr, felly mae angen mewngofnodi i gael mynediad.

Annwyl fyfyriwr,

Croeso nôl! Gobeithio’n fawr eich bod wedi mwynhau’r haf ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd newydd.

A minnau’n Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, mae'n bleser gen i eich croesawu i’r hyn sy'n addo bod yn flwyddyn gyffrous. Fel bob amser, bydda i’n cadw mewn cysylltiad â chi drwy gydol y flwyddyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau'r brifysgol a sôn am gyfleoedd ichi gymryd rhan ynddyn nhw.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, eich lles yw ein blaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl tra eich bod yn y brifysgol. Os byddwch chi’n dechrau cael trafferth, cofiwch gysylltu â’n gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a lles neu gymorth academaidd cyn gynted â phosibl. Siaradwch â'ch tiwtor personol, chwiliwch am sesiynau sgiliau astudio, dewch o hyd i ddigwyddiad cymorth dan arweiniad cyd-fyfyrwyr neu mynnwch apwyntiadau cwnsela a lles un i un drwy Gyswllt Myfyrwyr.

Gall tîm desg Cyswllt Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr helpu os oes angen cyngor arnoch chi o ran ble i ddechrau ac mae eu porth ar-lein a'u sgwrsfot ar gael 24/7.

Rydyn ni’n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i fynd i'r afael â chamymddwyn rhywiol, aflonyddu, cam-drin a thrais yn ein cymuned. Cyn dechrau eich astudiaethau, cymerwch ychydig o amser i gwblhau’r modiwl hyfforddiant newydd ar gydsyniad ar Ddysgu Canolog. Gyda'n gilydd, gallwn ni helpu ein gilydd i barhau’n ddiogel.

Dros yr haf, lansiwyd ein strategaeth newydd: Ein dyfodol, gyda'n gilydd. Mae eich adborth yn ystod Y Sgwrs Fawr, yn ogystal ag arolygon rheolaidd gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, wedi helpu i lunio'r strategaeth hon sy'n canolbwyntio ar wella profiad y myfyrwyr rydyn ni’n ei gynnig ichi. Drwy gydol y flwyddyn bydda i’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am sut mae'r strategaeth yn cael ei rhoi ar waith, beth mae'n ei olygu i chi, a sut y bydd yn newid y Brifysgol nawr ac yn y dyfodol.

Bydda i’n cysylltu â chi eto yn fuan. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhan yn y digwyddiadau a'r gweithgareddau niferus yr ydym wedi'u cynllunio gan gynnwys ffeiriau gyrfaoeddsesiynau coffi dan arweiniad myfyrwyr. Dyma ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, deall rhagor am eich diddordebau a manteisio i’r eithaf ar fod yn fyfyriwr prifysgol.

Cadwch lygad ar eich mewnflwch i weld negeseuon e-bost Newyddion Myfyrwyr a diweddariadau pwysig eraill, ac os oes gennych chi gwestiynau, ewch i fewnrwyd y myfyrwyr neu cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr.

Gan ddymuno'r gorau ichi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Cofion gorau,  
Claire

Rhannu’r stori hon