Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Stuart Taylor yn ennill Medal Menelaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru 2024

21 Tachwedd 2024

Llongyfarchiadau gwresog i’r Athro Stuart Taylor, am dderbyn Medal Menelaus 2024, a ddyfarnwyd ar ran Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Caiff Medal Menelaus ei chyflwyno yn flynyddol am ragoriaeth mewn unrhyw faes peirianneg a thechnoleg i ymchwilydd academaidd, diwydiannol neu ymarferydd sy'n byw yng Nghymru, o dras Gymreig, neu sydd â chysylltiad penodol â Chymru.

Mae derbynnydd y fedal yn cael eu dewis bob blwyddyn gan bwyllgor sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a SWIEET2007 (Ymddiriedolaeth Addysg Sefydliad Peirianwyr De Cymru), sy'n noddi'r Fedal. Caiff enwebiadau ar gyfer y Fedal eu cyflwyno gan Gymrodorion Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Pan dderbyniodd yr Athro Taylor Fedal Menelaus, dywedodd: "Mae derbyn Medal Menelaus LSW 2024 yn fraint ac yn anrhydedd mawr. “Mae’n cydnabod yr hyn a gyflawnir dros nifer o flynyddoedd, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar i bob un o fy myfyrwyr, fy nghydweithwyr a’r bobl sy’n gweithio mewn prosiectau eraill gyda fi sydd wedi cyfrannu ac wedi fy nghefnogi yn fy ngyrfa ymchwil.”Mae’r Fedal wedi’i henwi ar ôl William Menelaus (1818–82), y peiriannydd, y gwneuthurwr haearn a dur, a rheolwr cyffredinol Cwmni Haearn Dowlais, a sefydlodd y Sefydliad Peirianwyr De Cymru gwreiddiol ym 1857.

Mae'r Athro Taylor, Athro Cemeg Ffisegol a Chyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Cemeg Caerdydd, wedi gwneud cyfraniadau arloesol at gatalysis heterogenaidd, gan ddylanwadu ar ynni, cynaliadwyedd, cemeg werdd, a diogelu'r amgylchedd.

Mae ei waith ar gatalysis amgylcheddol wedi arwain at ddatblygiadau sylweddol mewn systemau cynnal bywyd a rheoli allyriadau atmosfferig, gyda datblygiadau arloesol sydd wedi cael eu mabwysiadu a'u masnacheiddio'n fyd-eang. Mae'r datblygiadau arloesol hyn wedi bod yn hanfodol wrth amddiffyn rhag gwenwyn carbon monocsid mewn llongau tanfor, plymio dyfnforol, ymladd tân, a mwyngloddio, gan achub miloedd o fywydau bob dydd.

I gydnabod ei gyflawniadau rhagorol, caiff yr Athro Taylor ei osod ymhlith y 2% uchaf o ymchwilwyr ledled y byd yn Rhestr Safleoedd Gwyddonwyr y Byd blynyddol Prifysgol Stanford.

Mae'r Athro Stuart Taylor yn Athro Cemeg Ffisegol yn Ysgol Cemeg Caerdydd, ef yw Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd, ac mae ganddo ystod eang o ddiddordebau ymchwil ym maes catalysis heterogenaidd.

Rhannu’r stori hon