Sgiliau ar gyfer llwyddo
30 Hydref 2024
Darllenwch neges gan Nicola Innes, Rhag Is-Ganghellor Dros Dro ar gyfer Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 30 Hydref.
Gan fod hwn yn gopi o e-bost a anfonwyd i fyfyrwyr, mae'r dolenni o fewn yr e-bost ar fewnrwyd y myfyrwyr, felly mae angen mewngofnodi i gael mynediad.
Annwyl fyfyriwr,
Mae'n bleser gen i ysgrifennu atoch fel eich Rhag Is-Ganghellor Dros Dro ar gyfer Addysg a Phrofiad Myfyrwyr. Gobeithio eich bod wedi cael dechrau da i'r semester a'ch bod yn teimlo'n gartrefol yn eich bywyd yn y brifysgol.
Tra byddwch chi’n astudio yma yng Nghaerdydd byddwch chi’n ennill llawer o sgiliau a fydd yn eich helpu i danio eich potensial academaidd a hefyd eich paratoi ar gyfer llwyddiant y tu hwnt i'r brifysgol. Dros yr haf rydyn ni wedi gwella ein deunyddiau dysgu i'w gwneud hi'n haws rhoi hwb i'ch sgiliau ar gyfer llwyddo.
P'un a yw'n ennill technegau astudio newydd, gwneud y gorau o offer digidol, dysgu iaith newydd neu roi hwb i'ch cyflogadwyedd, mae pob cam byddwch chi’n ei gymryd yn dod â chi'n agosach at gyrraedd eich nodau. Mae rhai o'r uchafbwyntiau y gallech chi ddechrau gyda nhw yn cynnwys:
- meistroli rheoli’ch amser ac osgoi llusgo’ch traed
- sut i ddefnyddio cyfeirio a chyfeirnodi
- dosbarthiadau mathemateg, Saesneg a sgiliau astudio rhad ac am ddim
- datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a’ch rhinweddau’n fyfyriwr graddedig.
Cadwch lygad ar y fewnrwyd ar gyfer digwyddiadau sydd i ddod, dosbarthiadau, ffeiriau gyrfaoedd a chyfleoedd eraill i barhau i wella eich sgiliau.
Mae ein campysau yn rhan bwysig o'ch profiad yn y brifysgol ac mae'n bwysig eu bod yn parhau i fod yn lle diogel, cefnogol a chroesawgar i bawb. Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Profost a’r Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Damian Walford Davies aton ni i'n hatgoffa o hyn ac roeddwn i eisiau ategu ei neges a'ch annog i ddarllen y diweddariad, os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes.
Os ydych chi byth yn teimlo'n anniogel ar y campws, gallwch chi roi rhybudd i’r Tîm Diogelwch drwy ap Safe Zone. Mae ein gwasanaethau iechyd meddwl a lles ar gael i’ch helpu os oes angen i chi siarad â rhywun. Gallwch chi hefyd ddefnyddio TalkCampus ddydd a nos. Mae'n gymuned ddiogel a dienw dan arweiniad myfyrwyr lle gallwch chi siarad am bethau da a drwg bywyd heb ofni cael eich barnu.
Diolch am fod yn rhan o'n cymuned a pheidiwch ag anghofio, rydyn ni yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd.
Cofion gorau,
Nicola
Yr Athro Nicola Innes
Rhag Is-Ganghellor Dros Dro ar gyfer Addysg a Phrofiad Myfyrwyr