Ewch i’r prif gynnwys

Bydd yr astudiaeth fwyaf am y Brydain Rufeinig yn trawsnewid dealltwriaeth o'r cyfnod

21 Tachwedd 2024

Claddedigaeth Rhufeinig mewn cist gerrig cyn y gwaith cloddio gan Brosiect Archaeoleg Teffont
Claddedigaeth Rhufeinig mewn cist gerrig cyn y gwaith cloddio gan Brosiect Archaeoleg Teffont, dan gyfarwyddyd Dr David Roberts

Bydd academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Efrog yn dechrau ar brosiect tair blynedd o hyd sy'n ymchwilio i symudedd yn y Brydain Rufeinig.

Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) UKRI wedi dyfarnu £1.49m i’r prosiect, sef yr astudiaeth gyfun archeolegol, isotopig a DNA hynafol (aDNA) fwyaf a gynhaliwyd erioed i unrhyw boblogaeth Rufeinig.

Arweinir yr ymchwil gan Dr David Roberts (Prifysgol Caerdydd), gyda’r Athro Richard Madgwick (Prifysgol Caerdydd) a Dr Sophy Charlton (Prifysgol Efrog).

Meddai’r Dr Madgwick, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd: "Mae'r cyfnod Rhufeinig yn sylfaen i'n naratifau cenedlaethol, a'r nod yw cymryd golwg newydd ar dybiaethau ynghylch faint oedd pobl yn mudo ac yn symud ym Mhrydain bryd hynny.

"Byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar bobl o fannau gwledig a sifil, gan ddefnyddio sawl llinyn o dystiolaeth wyddonol ac archeolegol i blethu naratifau cynnil am y ffordd y symudodd pobl fel unigolion, fel grwpiau, a thros nifer o genedlaethau, a hynny mewn modd sydd erioed wedi bod yn bosibl yn achos y Brydain Rhufeinig.

Mae'r prosiect yn datblygu ar waith cloddio sylweddol diweddar o fynwentydd Rhufeinig ledled Cymru a Lloegr. Cynhaliwyd y gwaith hwn gan unedau archaeolegol masnachol yn rhan o'r broses gynllunio a datblygu.

Esboniodd Dr Charlton o Brifysgol Efrog: "Mae'r data o ansawdd uchel a gynhyrchir gan archaeolegwyr arbenigol sy'n gweithio ar fynwentydd a gloddiwyd cyn eu datblygu yn ein galluogi i weithio'n fwy effeithlon, i ailddefnyddio data ein cydweithwyr ac i ychwanegu gwerth at eu prosiectau. Rydyn ni’n ddiolchgar i'n partneriaid am y cyfle i gael gweithio gyda nhw ar y prosiect cyffrous hwn."

Yr Athro Richard Madgwick wrthi’n dadansoddi yn y labordy ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yr Athro Richard Madgwick wrthi’n dadansoddi yn y labordy ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn y cyfnod lle’r oedd y rhan helaeth o Brydain dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig, gwyddom fod nifer sylweddol o filwyr a phobl eraill oedd yn ymwneud â'r ymerodraeth wedi symud rhwng Prydain a'r Cyfandir. Mae astudiaethau traddodiadol o symudedd wedi tueddu i ganolbwyntio ar y bobl hyn, neu'r rhai a ganfuwyd gydag arteffactau egsotig.

Bydd y prosiect hwn yn cynnal dadansoddiad ar raddfa fwy o lawer, yn canolbwyntio ar ystod ehangach o bobl a safleoedd, gan ymchwilio nid yn unig i symudedd ar lefel daleithiol, ond hefyd i symudedd pobl o fewn Britannia.

Meddai Dr Richard Madgwick, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: "Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar sawl prosiect mawr diweddar ar y Rhufeiniaid a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, gan weithio gyda'n cydweithwyr yn Efrog i ymchwilio i symudedd ar draws Britannia. Bydd graddfa'r ymchwil hon yn newid yn llwyr ein dealltwriaeth o’r modd roedd pobl yn symud o gwmpas ac yn dod i’r Brydain Rufeinig. Bydd ein methodoleg archeolegol a gwyddonol integredig yn creu model at ddibenion ymchwilio i daleithiau Rhufeinig eraill yn y dyfodol."

Bydd project Britannia Rhufeinig: Symudedd a Chymdeithas yn dechrau ym mis Mawrth 2025.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.