Mae academydd Model Caerdydd wedi derbyn gwobr am arloesi ym maes iechyd y cyhoedd
21 Tachwedd 2024
Mae’r Athro Jonathan Shepherd, Athro Emeritws ac academydd arweiniol ‘Model Caerdydd’ wedi derbyn Gwobr Tywysog Mahidol ym maes iechyd y cyhoedd i gydnabod ei waith ar Fodel Caerdydd er Atal Trais, sef dull arloesol o ddeall ffynonellau gwirioneddol trais, ac effaith hyn ar bobl, yn seiliedig ar ddata ysbytai yn hytrach na data'r heddlu.
Cynigir Gwobr Tywysog Mahidol i unigolyn yn dilyn arloesi, arwain a chyflawni rhagorol wrth hyrwyddo iechyd y boblogaeth.
Datblygwyd gwaith yr Athro Shepherd ar ‘Fodel Caerdydd’ yn sgil y canfyddiad nad oedd hyd at 75% o ddigwyddiadau treisgar roedd angen triniaeth ysbyty ar eu cyfer mewn adrannau achosion brys yn hysbys i asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Yn dilyn arsylwadau gwreiddiol yr Athro Shepherd, ac yntau’n llawfeddyg y genau a’r wyneb dan hyfforddiant, cadarnhaodd astudiaethau pellach mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn y gyfraith ym Mhrifysgol Bryste nad yw asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn ymwybodol o’r rhan fwyaf o drais sy’n arwain at driniaeth frys mewn ysbytai, yn bennaf gan fod y sawl a anafwyd wedi dewis peidio â rhoi gwybod am y digwyddiadau i’r heddlu. Yn dilyn y gwaith hwn datblygwyd theori’r newidiadau sy'n sail i Fodel Caerdydd.
Bellach, mae Model Caerdydd yn cael ei ddefnyddio mewn pum cyfandir. Ers iddo gael ei fabwysiadu’n wreiddiol yn y DU, mae Model Caerdydd wedi cael ei efelychu a’i werthuso yn Awstralia, Canada, Colombia, Jamaica, yr Iseldiroedd, De Affrica ac Unol Daleithiau America. Yn ddiweddar, datblygodd Canolfan Rheoli ac Atal Clefydau yr Unol Daleithiau becyn cymorth er mwyn i ragor o ddinasoedd yn ei rhwydwaith allu rhoi’r model ar waith, gan elwa felly ar y dull.
Mae gwerthusiadau o sefyllfaoedd yn dilyn rhoi Model Caerdydd ar waith yn dangos bod gostyngiad o 42% yn nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd trais. Mae rhannu data Model Caerdydd megis union leoliad trais, yr amser, y dyddiad a gasglwyd gan adrannau achosion brys ysbytai ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac asiantaethau’r llywodraeth yn y ddinas wedi cynyddu'n sylweddol y gallu i ddod o hyd i’r mannau problemus hynny lle mae trais yn digwydd. Yn dilyn mabwysiadu Model Caerdydd yn Llundain, daethpwyd o hyd i fannau problemus lle ceir trais gangiau, lleoliadau gwerthu a chamddefnyddio cyffuriau.
Jonathan Shepherd, Yr Athro Emeritws Y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth, "Mae’r hyn sy’n cael ei adnabod ledled y byd yn Fodel Caerdydd er Atal Trais yn seiliedig ar y darganfyddiad yn fy astudiaethau PhD nad yw’r heddlu yn gwybod am y rhan fwyaf o drais sy’n arwain at driniaeth frys mewn ysbyty. Y canlyniad yw ffordd newydd o wneud dinasoedd yn fwy diogel, yn seiliedig ar ddata a gesglir mewn adrannau achosion brys. Heb gydweithrediad brwdfrydig Cyngor Sir Caerdydd, Heddlu De Cymru, Canolfannau Rheoli Clefydau a chydweithwyr yn Sefydliad Iechyd y Byd ni fyddai hyn byth wedi digwydd. Rwy'n hynod ddiolchgar i bob un ohonyn nhw."
Ymhlith enillwyr blaenorol Gwobr Tywysog Mahidol mae’r Athro Ian Frazer, yr arweiniodd ei ymchwil at greu’r brechlyn HPV, a’r Athro David Mabey y mae ei waith maes a’i astudiaethau ym maes tracoma, sef un o achosion cyffredin dallineb, gan gyfrannu’n sylweddol at y disgwyl y bydd y clefyd hwn sy'n achosi dallineb yn cael ei ddileu erbyn 2025.