Mae ymchwilwyr Caerdydd wedi cyfrannu at lyfr newydd sy’n trin a thrafod y broses o adnewyddu sy’n digwydd mewn undebau
20 Tachwedd 2024
Mae llyfr newydd yn tynnu sylw at sut y gall undebau addasu i heriau modern drwy arbrofi arloesol.
Mae Experimenting for Union Renewal yn cynnwys cyfraniadau gan ymchwilwyr Ysgol Busnes Caerdydd a chydweithwyr yn Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) sy'n rhoi cipolwg ar gryfhau gwytnwch undebau ledled y byd.
Gan dynnu ar ddadansoddiadau manwl o achosion o arloesi mewn undebau mewn detholiad eang o wledydd a diwydiannau, mae ymchwilwyr yn adrodd ar y mentrau adnewyddu hyn ac yn dysgu gwersi ganddyn nhw. Wrth ddadansoddi’r mentrau hyn gyda’i gilydd mae modd gwneud nifer o ganfyddiadau cyfoethog a thrawsddisgyblaethol er mwyn cefnogi mentrau o'r fath.
Mae’r penodau cyntaf yn disgrifio'r dull gweithredu ac yn rhoi trosolwg o'r deunaw astudiaeth achos. Mae adrannau dilynol yn grwpio'r achosion yn thematig: ymrafael â neoryddfrydiaeth, yr economi gig sydd wedi’i hollti, mentrau cadwyn gwerth rhwng y De a’r Gogledd, agenda undebau llafur sy'n ehangu, dilyn datblygiadau arloesol yng ngwaith a dulliau undebau, a datblygu mathau newydd o gynhwysiant a chydsefyll gydag eraill.
Mae'r astudiaethau achos yn cwmpasu ardal ddaearyddol eang, boed yn economïau sy'n dod i’r golwg yn Affrica, Asia ac America Ladin neu’n achosion yn Ewrop, Gogledd America ac Awstralia.
Cyfrannodd Marco Hauptmeier a Leon Gooberman o Ysgol Busnes Caerdydd bennod o'r enw 'Building bridges: forming a union coalition to improve working conditions for agricultural workers in Wales.' Mae eu hymchwil yn trin a thrafod sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, sef panel a grëwyd i wella cysylltiadau cyflogaeth ac amodau gwaith i weithwyr amaethyddol.
Teitl pennod ymchwilwyr WISERD, Jean Jenkins, Helen Blakely, Rhys Davies, a Katy Huxley, yw ‘The quest for cleaner clothes: using more systematic data collection to promote worker organising and advocacy in the international garment sector.’ Mae'r tîm yn tynnu sylw at ddau achos o arbrofi a ddyluniwyd i wella amodau gwaith mewn safleoedd yn y sector dillad rhyngwladol.
Mae pennod olaf y llyfr yn tynnu sylw at y strategaethau ymarferol y mae angen ar undebau eu datblygu er mwyn arbrofi ac addasu'n effeithiol, gan ddangos y gall arbrofi ehangu eu gallu i fod yn wydn ac i dyfu, a hynny er gwaethaf y ffaith bod cenhadaeth graidd yr undebau, sef gwella amodau gwaith, yn parhau’n un hollbwysig.
Gallwch chi brynu fersiwn argraffedig o'r llyfr ar wefan Sefydliad Undebau Llafur Ewrop lle mae'r llyfr cyfan a'r holl benodau unigol hefyd ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim.