Mae traethawd hir cyn-fyfyriwr graddedig gwaith cymdeithasol wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn o bwys
20 Tachwedd 2024
Mae ymchwil traethawd hir cyn-fyfyriwr graddedig mewn Gwaith Cymdeithasol (MA) o Brifysgol Caerdydd ar sut mae’r cyfryngau yn portreadu gwaith cymdeithasol wedi cael ei chyhoeddi yn brif gyfnodolyn gwaith cymdeithasol y DU.
Mae British Journal of Social Work wedi cyhoeddi ymchwil Jess Worthington, sy’n trin a thrafod sut mae papurau newydd yn adrodd ar waith cymdeithasol.
Mae cyhoeddi traethawd hir ei gradd meistr yn dangos arwyddocâd gwaith Jess ac yn cynrychioli cyflawniad anarferol i fyfyriwr.
Dywedodd Jess, “Roedd fy ngwaith yn ystyried a yw safbwynt gwleidyddol papur newydd yn effeithio ar sut maen nhw’n adrodd ar faterion gwaith cymdeithasol."
“Roedd papurau newydd sydd â safbwynt asgell dde yn llawer mwy negyddol am weithwyr cymdeithasol na rhai sydd â safbwynt asgell chwith, ac roedd papurau newydd sydd â safbwynt asgell chwith yn llawer mwy cadarnhaol na rhai sydd â safbwynt asgell dde.
“Cyhoeddodd Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain ganllawiau i’r cyfryngau eu defnyddio yn 2022, ac rwy’n gobeithio, wrth i’r mater gael ei drafod yn fwyfwy, bydd rhagor o newid yn deillio ohono.”
Mae'r astudiaeth, sy’n dadansoddi bron i 250 o erthyglau, yn awgrymu y gall portreadau yn y cyfryngau feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwaith cymdeithasol.
Mae gan rai naratifau y potensial i gyfrannu at ddiwylliant bai ymysg y proffesiwn.
Dywedodd yr Athro Jonathan Scourfield, a ysgrifennodd yr erthygl yn y cyfnodolyn ar y cyd â Jess:
Dywedodd arweinydd rhaglen Gwaith Cymdeithasol (MA), yr Athro David Wilkins:
Ychwanegodd Jess, “Hoffwn i ddweud diolch yn fawr i bawb oedd yn ymddiried yn llawn ynof i ac a wnaeth fy helpu i'w gyhoeddi.
“Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael fy ymchwil traethawd hir i ansawdd lle’r oedd gen i gyfle i’w gyhoeddi, gyda chefnogaeth gan un o ddarlithwyr y Brifysgol.”