Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn mynd ar daith i ddysgu am ddiwylliant y Māori

19 Tachwedd 2024

Grŵp yn sefyll o flaen adeilad
Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn adeilad Y Pā, ar gampws Hamilton Prifysgol Waikato

Mae grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod i Aotearoa (Seland Newydd) i brofi diwylliant y Māori yn rhan o raglen gyfnewid ryngwladol.

Teithiodd deg myfyriwr israddedig i Brifysgol Waikato i ddilyn cwrs Te Ao Hurihuri, sydd ar gael i fyfyrwyr o gymunedau brodorol ac o wledydd sydd ag elfennau tebyg ynghylch iaith a diwylliant lleiafrifol.

Cymerodd y grŵp ran mewn sesiynau am te reo Māori (iaith Māori) a te ao Māori (golwg y Māori ar y byd) sy’n cynnwys hanes y Māori, arferion diwylliannol, gwerthoedd, a dulliau o rannu gwybodaeth, gyda sesiynau wedi'u cynllunio’n arbennig ar bynciau gan gynnwys gwleidyddiaeth y Māori, llywodraethiant, gofal iechyd, addysg a newyddiaduraeth.

Cafwyd cyfle i gymryd rhan yn nathliadau diwrnod Kīngitanga i ddathlu Kuini (brenhines) newydd y Māori, Ngā Wai hono i te pō, ac yn rhan o raglen ddigwyddiadau'r diwrnod, gwahoddwyd y Cymry i roi cyflwyniad ar ymdrechion i adfywio'r Gymraeg.

Mae'r ymweliad hwn yn nodi lansio cynllun cyfnewid i fyfyrwyr Māori a Chymraeg eu hiaith ym Mhrifysgol Waikato a Phrifysgol Caerdydd, ac fe’i ariennir yn rhannol gan Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu. Cydlynir y cynllun mewn partneriaeth â thîm Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol, a bydd pum myfyriwr Māori yn ymweld â Chaerdydd ddiwedd mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Mae Taith yn cael ei hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n hyrwyddo cydweithio rhwng sefydliadau o Gymru a sefydliadau dramor i hybu cyfleoedd cyfnewid dysgu. Mae cynlluniau cyfnewid dysgu rhyngwladol fel y rhain yn cynnig cyfleoedd unigryw, sy'n aml yn newid bywydau, i rannu profiadau dysgu, profi diwylliannau gwahanol a datblygu sgiliau newydd.

Meddai Samia Yassine, derbynnydd Ysgoloriaeth Betty Campbell, sydd yn ei blwyddyn olaf yn astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol: "Mae'r daith hon wedi newid fy mywyd i. Roedd y profiad o ymgolli yn niwylliant y Māori yn anhygoel a byddaf yn ei drysori am byth.

"A minnau’n fyfyriwr mewn gwleidyddiaeth, roedd hi’n fraint cael y cyfle i glywed gan y cyn-wleidydd Nanaia Mahuta am ei phrofiad fel menyw Māori mewn senedd gyda mwyafrif gwyn, a dysgu am yr heriau a wynebodd.

Mae gallu astudio rhan o fy ngradd yn Gymraeg wedi bod yn bwysig i fi - ac mae'r daith yma wedi gwneud i fi feddwl yn ddyfnach am fy mherthynas gydag iaith a diwylliant Cymru.
Samia Yassine

Meddai Swyn Owen, ysgolor Betty Campbell arall sy'n astudio'r Gymraeg: “Rwyf wedi dysgu llawer am ddiwylliant y Māori, ac mae’r profiad wedi agor fy llygaid i ddiwylliannau gwahanol. Mae wedi fy annog i ddathlu’r Gymraeg yn fwy a bod yn falch o hanes yr iaith a pha mor bell mae’r iaith wedi dod.”

Ychwanegodd Hana Taylor, sy'n astudio yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant: “Fel un sy’n  dod o gefndir iaith Saesneg roedd cael siarad cymaint o Gymraeg yn ystod y daith yn fuddiol a hyfryd iawn.

“Mae’r profiad wedi fy annog i feddwl am fy niwylliant fy hun; dwi eisiau wneud mwy o ymdrech i ddatblygu a chofleidio fy niwylliant. Dwi eisiau cynnwys rhai o’r ffyrdd y mae’r Māori yn byw a dathlu eu hetifaeddiaeth yn fy mywyd i wrth feddwl am Gymreictod a’r Gymraeg . Mae’r profiad hefyd wedi datblygu fy hyder i greu ffrindiau newydd a siarad o flaen grwpiau mawr.”

Meddai Deon newydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Angharad Naylor, a aeth gyda'r myfyrwyr: "Roedd y daith hon yn brofiad ysbrydoledig i ni gyd, gan roi cyfle inni weld sut mae diwylliant ac iaith y Māori’n cael ei ddathlu a'i gynnwys ym mhob agwedd ar fywyd mewn cymunedau yn Aotearoa. Rwy'n ddiolchgar i bawb ym Mhrifysgol Waikato am eu croeso.

"Nid yn unig y mae'r daith hon wedi rhoi’r cyfle inni ddysgu am ffordd y Māori o fyw, mae wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i ni o'n hunaniaeth ddiwylliannol ein hunain a'r ffyrdd y mae'r Gymraeg yn dylanwadu arno.

Er bod y ddwy wlad mewn rhannau gwahanol o'r byd, maen nhw’n debyg mewn nifer o ffyrdd, ac mae’n dangos y ffyrdd y mae iaith leiafrifol ffyniannus yn gallu mynd law yn llaw â diwylliant cyfoethog a bywiog, ac yn rhywbeth y dylid ei ddathlu a'i feithrin.
Dr Angharad Naylor Uwch-ddarlithydd

Dywedodd Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: “Rwy'n hynod falch bod y dysgwyr hyn, gyda chymorth rhaglen Taith, wedi gallu darganfod a phrofi'r diwylliant Māori ac adlewyrchu ar eu diwylliant a'u hiaith eu hunain. Mae cydweithredu yn hollbwysig i ddysgu oddi wrth ein gilydd, ac mae Cymru mewn sefyllfa berffaith i rannu gwybodaeth â rhanbarthau a gwledydd eraill sy'n ddwyieithog neu ag ieithoedd lleiafrifol. Rwy'n ffyddiog bod y daith cyfnewid hon wedi rhoi profiadau bywyd amhrisiadwy i'r dysgwyr hyn a fydd yn ddylanwad arnynt i’r dyfodol.”

Mae Ysgoloriaeth Betty Campbell yn dyfarnu hyd at £1,000 i wyth myfyriwr cymwys bob blwyddyn sy'n astudio 20 credyd neu fwy drwy gyfrwng y Gymraeg. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gan Brifysgol Caerdydd bartneriaeth strategol â Phrifysgol Waikato, sy’n fuddiol i staff a myfyrwyr ar y ddwy ochr, gan gynnwys cydweithio’n agosach ar ymchwil, gweithgareddau addysgu tymor byr ac yn yr hirdymor, a llwyfannau cydweithredol.

Mae Taith yn rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu. Mae’n cynnig cyfleoedd arbennig i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ym mhedwar ban y byd. Ewch i www.taith.cymru am fwy o wybodaeth.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.