Ewch i’r prif gynnwys

Y daith o’r llwybr i swydd ddelfrydol

17 Tachwedd 2024

Hayley Bassett
Hayley Bassett

Dechreuodd taith Hayley i lwyddiant gyda Llwybr Archwilio’r Gorffennol a arweiniodd at BA, MA a PhD. Mae ganddi hi bellach swydd ddelfrydol yn gweithio yn y sector treftadaeth.

Yn 2010 roedd Hayley Bassett yn fam brysur, yn gweithio, ac yn ofalwr amser llawn yn byw ym Mhort Talbot pan glywodd am y llwybr at radd mewn hanes, archaeoleg a chrefydd.

Roedd dychwelyd i'r ystafell ddosbarth yn 40 oed yn teimlo’n frawychus ar y dechrau. Derbyniodd Hayley yr anogaeth a’r gefnogaeth yr oedd ei hangen arni, i symud ymlaen i gwrs BA rhan-amser mewn Hanes yr Henfyd a’r Oesoedd Canol. Graddiodd yn 2016.

Cynyddodd hyder Hayley yn y pwnc yr oedd yn ei garu a dechreuodd ddychmygu ei hun yn gweithio ym myd hanes a threftadaeth. Gwnaeth hyn ei hysgogi i barhau i wneud astudiaethau ôl-raddedig.

Cwblhaodd Hayley ei MA mewn Astudiaethau Canoloesol Prydain yn 2019 a dechreuodd ei PhD yn 2020.

Yn ystod ei hastudiaethau, cafodd Hayley gyfle i fod yn gydlynydd y prosiect allgymorth SHARE with Schools. Roedd hon yn rôl berffaith iddi.

Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Caerdydd, ac athrawon ac addysgwyr lleol.

Ei nod yw datblygu a chyflwyno pecynnau cymorth a gweithdai i arddangos amrywiaeth gyffrous ein hymchwil ac astudiaeth o gyfnod cynhanes i gymdeithasau cyfoes.

Mae gyrfa Hayley wedi parhau i ffynnu. Yn ddiweddar dechreuodd weithio i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a dywedodd:

“Rhoddodd y llwybr y cyfle i mi roeddwn i’n meddwl fy mod wedi’i fethu, gan nad oedd y brifysgol yn opsiwn i mi ar ôl fy arholiadau Safon Uwch. Roedd y sgiliau a ddysgais ar y llwybr o fudd mawr i mi, ar gyfer fy astudiaethau yn y dyfodol ac ar gyfer bywyd bob dydd. Sbardunodd fy awch am ymchwil a dadansoddi, ac mae’r diddordeb hynny wedi parhau yn fy swydd newydd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Yn fy rôl yn Gydlynydd Cefnogi Prosiectau Rhanbarthol, rwy’n goruchwylio’r holl brosiectau sy’n cael eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Mae'n rôl newydd yng Nghymru ond mae wedi'i sefydlu mewn rhanbarthau eraill yn Lloegr. Mae'n gyfle cyffrous iawn!”

Dywedodd Dr Paul Webster, cydlynydd Llwybr Archwilio'r Gorffennol:

“Mae stori Hayley yn un ysbrydoledig. Mae ganddi ddiddordeb anhygoel mewn hanes. Mae wedi bod yn hyfryd ei gwylio’n datblygu ei sgiliau a'i hyder yn ystod y llwybr, ei gradd BA a’i rhaglenni ôl-raddedig. Mae wir yn dangos yr hyn y gallwch chi ei gyflawni ar ôl cymryd y cam cyntaf hwnnw’n ôl i addysg. Llongyfarchiadau Hayley, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed am eich llwyddiannau yn y dyfodol!”

Ar hyn o bryd mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig 14 pwnc (ond mae'r rhestr yn tyfu!) yn rhan o'n llwybrau at radd.

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y Llwybrau at Radd?

Rhannu’r stori hon