Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy yn dod ag arbenigwyr mewn economeg ymfudo ynghyd

14 Tachwedd 2024

The workshop participants stood smiling in a group photo

Cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd Weithdy Caerdydd ar Economeg Ymfudo ar 24 Hydref 2024, gan ddod ag ymchwilwyr o’r DU ac ymchwilwyr rhyngwladol ynghyd i gyflwyno eu harbenigedd ar economeg ymfudo.

Cyfarchwyd y cynrychiolwyr gan yr Athro Kul Luintel, Pennaeth yr Adran Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd, gan osod y naws ar gyfer diwrnod o gyflwyniadau a thrafodaethau diddorol.

Roedd yr uchafbwyntiau yn cynnwys areithiau gan yr Athro Joan Llull (Sefydliad Dadansoddi Economaidd ac Ysgol Economeg Barcelona) a'r Athro Michele Battisti (Ysgol Fusnes Adam Smith, Prifysgol Glasgow).

Roedd rhaglen y gweithdy yn cynnwys cyflwyniadau gan siaradwyr o’r DU a siaradwyr rhyngwladol, ac roedd dros 25 o unigolion yn bresennol. Yn eu plith, roedd myfyrwyr o Ysgol Ryngwladol Westbourne ym Mhenarth, a ymunodd gyda’u hathro i gael cipolwg uniongyrchol ar ymchwil academaidd.

Daeth y digwyddiad i ben gyda chinio anffurfiol, gan annog trafodaeth bellach a rhwydweithio rhwng yr academwyr.

"Mae’r gweithdy wedi hwyluso’r broses o gyfnewid syniadau a safbwyntiau deinamig rhwng ymchwilwyr sy'n gweithio ym maes economeg ymfudo. Roedd yn gyfle unigryw i feithrin rhwydwaith economaidd yn y grŵp hwn."
Dr Ezgi Kaya Senior Lecturer in Economics

"Roedd y trafodaethau rhyngweithiol yn ystod y cyflwyniadau, ynghyd â lefel yr ymgysylltiad a'r brwdfrydedd a ddangoswyd gan unigolion, yn amlygu pwysigrwydd meithrin cysylltiadau yn y maes hwn."
Luisanna Onnis Lecturer in Economics

Roedd yr adborth yn canmol yr awyrgylch cydweithredol ac ansawdd yr ymchwil a gyflwynwyd, gan gadarnhau bod y gweithdy yn llwyfan hanfodol i hyrwyddo economeg ymfudo ac annog cydweithredu yn y dyfodol.

Roedd y digwyddiad hwn yn rhan o gymrodoriaeth ymchwil a wedi’i hariannu gan ADR UK (Ymchwil Data Gweinyddol y Deyrnas Unedig), sy’n fenter gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (Rhif y Grant: ES/Y001001/1).

Trefnwyd y digwyddiad gan Dr Ezgi Kaya a Dr Luisanna Onnis, gyda Beverly Francis yn goruchwylio'r gwaith o’i reoli. Cefnogwyd y digwyddiad gan wirfoddolwyr, sef Dr Yundong Luo, Suzanna Nesom, a Xinning Ma, ochr yn ochr â Swyddogion Gweithredol yr Adran Economeg, Claire O'Neill a Kate Whittaker, Wayne Findlay a'r tîm TG, a Katy Walden o'r Tîm Recriwtio a Derbyn.

Rhannu’r stori hon