Ewch i’r prif gynnwys

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu

14 Tachwedd 2024

Onyinye Tete
Onyinye Tete

Mae oedran a phrofiad bywyd ein myfyrwyr yn amrywio, ac roedden nhw am ddefnyddio eu straeon i annog eraill i ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth gan nad oes gan freuddwydion derfynau amser.

Stori Maggie

Mae Maggie yn dod o Landaf, Caerdydd ac yn mwynhau ei hymddeoliad. Ymrestrodd i wneud cyrsiau Ffrangeg.

“Dw i wedi mwynhau Ffrangeg ers i mi ei hastudio ar lefel Safon Uwch ddiwedd y 1960au.  Roeddwn i'n cymryd yn ganiataol fy mod i’n weddol rugl yn yr iaith, ond tua chwe blynedd yn ôl, roedd yn rhaid i mi gydnabod bod y safonau’n llithro. Felly, dyma droi at y Brifysgol am gymorth.  Wedi i mi fod ar sawl cwrs, ac ymweld â Nantes ddwywaith yn rhan o’r rhaglen cyfnewid i oedolion, rhaglen alla i ddim ei chanmol ddigon, dw i'n hapus yn siarad yn agored yn y dosbarth unwaith eto.

Maggie Smales
Maggie Smales

Stori Elizabeth

Mae Elizabeth yn dod o Goed-duon ac yn fam brysur sy'n gweithio. Mae newydd orffen ein Llwybr at Radd mewn Optometreg, ac mae bellach yn astudio ar gyfer gradd Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Mae optometreg yn bwnc sydd wedi ennyn diddordeb ynof fi erioed, ond doedd gen i ddim y graddau i wneud cais i astudio ar gyfer gradd. Dw i wedi cael fy syfrdanu gan y gefnogaeth sydd ar gael gan fy nhiwtoriaid, y staff gweinyddol a’r holl weithwyr proffesiynol eraill dw i wedi cyfarfod â nhw ar y Llwybr at Radd mewn Optometreg.

Roeddwn i bob amser yn teimlo y gallwn i fod wedi cyflawni mwy pan oeddwn i’n ifanc pe byddwn i wedi canolbwyntio ar fy astudiaethau.

Roeddwn i wir eisiau profi i fi fy hun ac i fy mhlant nad yw hi byth yn rhy hwyr i weithio'n galed ac ennill cymhwyster sy’n gallu newid eich bywyd! Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.”

Elizabeth
Elizabeth

Sharif’s story

When Sharif retired from his role as a Professor of History in 2017, he felt he needed a new challenge. Sharif, who is 65 and lives in Abergavenny, had completed several creative writing courses but wanted to hone his skills and be able to write in a different genre.

He enrolled on the Writing Science Fiction and Fantasy course.

“The course was extremely useful. I learnt of some authors I'd never heard of and was given some useful pointers about describing situations and people in fantastic or future societies.

Part of the module was to write a 2,000-word piece of fiction.

I set the story in a future Wales, maybe in the 2060s or 2070s.

I entered it for a Welsh short story competition but wasn't lucky. I then heard of a special issue on the theme of 'Refuge' organised by an American e-mag called Muleskinner. To my delight, they accepted my entry within days.”

Sharif Gemie
Sharif Gemie

Stori Onyinye

Mae Onyinye Tete, a ddaeth i'r DU o Nigeria gyda'i thri o blant, wedi ymrestru ar gyfer y Llwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol. Dywedodd:

“Pan ddes i i Gymru, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud, na ble i ddechrau, ond ers y cyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd, mae wedi bod fel pe bai popeth amdana i wedi dod yn fyw eto.

Mae’r darlithwyr yn fendigedig. Dw i wedi dysgu mewn ffordd wahanol, ffordd hwyliog. Mae wedi bod yn ddylanwadol iawn, yn rhyngweithiol iawn. Dw i nawr yn gwybod beth dw i'n anelu ato. Dw i’n gallu byw. Dw i’n gallu canolbwyntio ac yn gwybod i ble dw i’n mynd. Mae wedi bod yn anhygoel gwneud ffrindiau, rhannu profiadau a rhoi’r grym yn nwylo ein gilydd.”

Hoffen ni ddiolch i bawb sydd wedi rhannu eu stori gyda ni.

Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch ysbrydoli i ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth, rydyn ni’n cynnal ystod o gyrsiau rhan-amser, gan gynnwys Llwybrau at Raddau, i oedolion.

Rhannu’r stori hon