Ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi sicrhau Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol gan Elusen Tiwmorau’r Ymennydd
8 Hydref 2024
Cyhoeddwyd bod Dr Mathew Clement, sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y Sefydliad Ymchwil ar Imiwnedd Systemau, yn un o Arweinwyr y Dyfodol 2024 Elusen Tiwmorau’r Ymennydd.
Mae’r Gymrodoriaeth yn cefnogi ymchwil glinigol a gwyddonol ym maes tiwmorau’r ymennydd a’i diben yw cefnogi ymchwil cyfnod cynharach sy’n addo gwella bywydau cleifion a’u teuluoedd.
Mae Glioblastoma (GBM) yn fath o ganser sy’n arbennig o ymosodol ac sy’n angheuol ym mhob achos ar hyn o bryd. Mae GBM yn cyfrif am hanner yr holl diwmorau canseraidd ar yr ymennydd ymhlith oedolion.
Nod ymchwil Dr Clement yw gweddnewid ein gwybodaeth gyfredol am drin GBM drwy ddeall rhagor am y potensial ynghlwm wrth drin y system imiwnedd.
Drwy ddeall ymatebion T-Cell, sy'n chwarae rhan fawr yn y ffordd y bydd y system imiwnedd yn ymateb i diwmorau, gobaith Dr Clement yw gallu datblygu triniaethau newydd.
Mae gan Dr Clement gefndir mewn ymatebion imiwn i heintiau feirysol cronig, gan ei alluogi i ymdrin â’i ymchwil mewn ffordd ryngddisgyblaethol.
Wrth siarad am y gymrodoriaeth, dywedodd Dr Clement “Bydd hyn yn fy ngalluogi i wneud newidiadau sylweddol yn ein dealltwriaeth o’r berthynas rhwng y system imiwnedd a’r ymennydd. Mae'r gymrodoriaeth o bwys mawr gan ei bod yn cefnogi ymchwilwyr academaidd rhagorol ac yn ariannu ymchwil wyddonol ar diwmorau’r ymennydd. Mae modd ymestyn yr ysgoloriaeth dros 12 mlynedd a bydd hyd at £1.8m o gyllid i gefnogi fy ymchwil a sefydlu fy hun yn ymchwilydd blaenllaw ym maes canserau’r ymennydd. Dyma’r tro cyntaf i’r ysgoloriaeth hon gael ei rhoi i unrhyw un yng Nghymru.”