Beth ddysgon ni yn Sgyrsiau Caerdydd: Llywio Twyllwybodaeth gyda Babita Sharma
12 Tachwedd 2024
Yn ein hail ddigwyddiad Sgyrsiau Caerdydd, bu’r newyddiadurwr Babita Sharma a phanel o arbenigwyr o'n Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth yn trafod tirwedd newidiol twyllwybodaeth a pha gamau y gallwn eu cymryd i lywio’r newyddion a’r cyfryngau digidol nawr ac yn y dyfodol.
“Dyw’r ffaith fod rhywbeth yn cael ei fwydo i ni ddim yn golygu ei fod yn wir. Ein cyfrifoldeb ni fel unigolion yw codi llais pan fyddwn ni’n gweld rhywbeth,” meddai Babita wrth iddi esbonio sut mae tirwedd newyddion a newyddiaduraeth yn newid.
Beth yw twyllwybodaeth?
Mae twyllwybodaeth yn golygu cyfathrebu a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd yn fwriadol i gamarwain. Mae wedi’i halinio’n agos ac weithiau'n gorgyffwrdd â phropaganda, damcaniaethau cynllwyn a chamwybodaeth, sy'n anfwriadol gamarweiniol. Gwnaed y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at gamwybodaeth yn Saesneg ym 1601 yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Rhybuddion
Amlinellodd prif araith Babita ffyrdd y gall y cyfryngau digidol fod yn offeryn pwerus ond yn un y dylid ei ddefnyddio'n ofalus; tynnodd sylw at enghreifftiau o ragfarnau a allai nodi'r angen am feddwl beirniadol. Gall gwybodaeth sy'n ymosod ar eraill ar sail rhywedd, hil, ethnigrwydd, crefydd neu statws economaidd-gymdeithasol i gyd fod yn arwyddion o dwyllwybodaeth.
“Dylai twyllwybodaeth rhywedd gael ei hystyried yn system rhybudd cynnar gan bawb. Mae menywod, ac yn enwedig menywod mewn gwleidyddiaeth, yn darged allweddol ar gyfer cam-drin a chasineb ar-lein. Yn aml mae'n rhagflaenu ymgyrchoedd twyllwybodaeth ehangach sy'n targedu menywod mewn swyddi o rym gyda'r nod o dawelu a thanseilio lleisiau benywaidd. Mae'r patrwm hwn yn ganeri yn y pwll glo ar gyfer iechyd ein systemau gwybodaeth yn eu cyfanrwydd.”
Ein rôl wrth nodi twyllwybodaeth
Mae ymchwil yn dangos ein bod ni, fel unigolion, o’r farn mai ni sydd leiaf cyfrifol am atal lledaeniad twyllwybodaeth; dadleuodd aelodau'r panel yn erbyn hyn a phwysleisio’r galluedd sydd gan bob un ohonom ni wrth ddelio â chyfryngau ar-lein a thwyllwybodaeth bosibl.
Yn ôl y Ganolfan Gwrthwynebu Casineb Digidol, mae postiadau gwleidyddol Elon Musk ar X bellach wedi cael eu gweld fwy na 17 biliwn o weithiau, gydag 87 ohonynt yn hyrwyddo honiadau sydd wedi'u dosbarthu’n 'ffug neu gamarweiniol' gan wirwyr ffeithiau annibynnol. Mae twyllwybodaeth yn ymwneud â'n realiti cyffredin a'n gallu i wneud penderfyniadau gwybodus, felly bydd gwirio ffeithiau ac adolygu yn bwysicach fyth yn y dyfodol.
Datblygiad cyfrifol AI
Mae AI yn rhan hanfodol o'r sgwrs ynghylch twyllwybodaeth wrth iddi ddod yn gynyddol anodd i'r person cyffredin wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen. Mae ’na ddiffyg amrywiaeth o fewn datblygiad AI, sy’n destun pryder enfawr gan ei fod yn arwain at barhad rhagfarnau cymdeithasol. Mae modelau iaith yn ei chael hi’n anodd cynrychioli neu ddeall haenau diwylliannol. Mae technolegau adnabod wynebau yn gwneud mwy o wallau gyda menywod a phobl o liw oherwydd cynrychiolaeth annigonol mewn setiau data hyfforddiant.
Sut i lywio twyllwybodaeth a chamwybodaeth ar-lein
Hybu llythrennedd cyfryngau
Meddyliwch am y foment y mae'r wybodaeth hon yn eich cyrraedd. Nod twyllwybodaeth yw osgoi eich craffu beirniadol, drwy ddefnyddio iaith emosiynol ac osgoi eich ymateb rhesymegol. Mireiniwch eich gallu i ddehongli gwybodaeth a chyd-destun.
Cefnogwch sefydliadau a mentrau gwirio ffeithiau
Bellach mae gan lawer o sefydliadau cyfryngau yn y DU, gan gynnwys y BBC a Channel 4, eu cangen gwirio ffeithiau eu hunain i adolygu newyddion ac olrhain honiadau anghywir. Mae Full Fact yn elusen yn y DU sy'n gwirio honiadau a wneir gan y rhai mewn bywyd cyhoeddus, gan gynnwys gwleidyddion, sefydliadau newyddion a sefydliadau cyhoeddus.
Cwestiynwch eich ffynonellau
Mae ein hymennydd wedi'i weirio i wneud llwybrau byr gwybyddol ac mae twyllwybodaeth wedi'i chynllunio i fanteisio ar hynny. Chwiliwch yn fwriadol am leisiau amgen, porwch wahanol ffynonellau newyddion bob dydd, a gwnewch ddefnydd o offer sy'n cyfuno newyddion o wahanol ffynonellau.
Newid ein meddwl yn wyneb tystiolaeth gredadwy
Mae twyllwybodaeth yn fwy na gair ffasiynol; mae'n fygythiad difrifol i'n sefydliadau democrataidd a'n ffabrig cymdeithasol. Gellir ei gwrthwynebu trwy fwy o ddealltwriaeth o'i mecanweithiau a'i heffaith, ochr yn ochr ag eirioli dros amrywiaeth mewn technoleg ac arweinyddiaeth. Gallwn ni ymddiried eto, ond rhaid i ni sicrhau ein bod yn llywio twyllwybodaeth gyda llygad barcud.