Ewch i’r prif gynnwys

Ymateb i weithredu gwleidyddol gan fyfyrwyr

6 Tachwedd 2024

Dr Paula Sanderson
Prif Swyddog Gweithredu a Ysgrifennydd y Brifysgol, Dr Paula Sanderson

Mae gweithredu gwleidyddol gan fyfyrwyr yn chwarae rhan bwysig mewn cymdeithas ddemocrataidd. Y Prif Swyddog Gweithredu, Dr Paula Sanderson, sy’n amlinellu ein hymateb i’r gwersyll myfyrwyr dros yr haf.

Yr haf diwethaf, fel mewn llawer o brifysgolion eraill yn y DU, bu gwersyll myfyrwyr ar lawnt y Prif Adeilad. Roedd cynghrair o fyfyrwyr, o Brifysgol Caerdydd a phrifysgolion eraill Cymru, wedi galw ar y Brifysgol i ymateb i gyfres o ofynion i roi’r gorau i’n perthynas ag ystod o gwmnïau, rhoi cefnogaeth i staff a myfyrwyr o Balestina, ac ailadeiladu’r sector addysg ym Mhalestina.

Roedd nifer o aelodau o staff a myfyrwyr yn gefnogol o’r gwersyll. Roedd eraill yn meddwl bod y gwersyll - yn enwedig peth o'r ymddygiad ddaeth i’r amlwg ynddo ac ar y campws - yn fygythiol neu’n peri trallod iddynt. Roedd angen i’r Brifysgol gydbwyso egwyddorion fel yr hawl i brotestio, rhyddid barn, iechyd a diogelwch y protestwyr a hawl pob aelod o staff a myfyriwr i deimlo’n ddiogel a’u bod yn perthyn yng Nghaerdydd.

Mae gan brifysgolion rôl hollbwysig i’w chwarae i hwyluso’r drafodaeth ar y cwestiynau mwyaf dyrys. Dylai Prifysgol Caerdydd fod yn sefydliad lle mae modd cynnal y sgyrsiau mwyaf anodd. Nid yn unig y mae’r egwyddorion hyn wedi'u diogelu yn y gyfraith, ond maent hefyd wrth wraidd yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn sefydliad academaidd. Mae angen i’r ddadl honno ddigwydd mewn mannau diogel, lle gellir mynegi a herio pob safbwynt ag urddas a pharch. Dylai prifysgolion chwarae rôl ‘dyfarnwyr’ niwtral, i hwyluso a chefnogi cynnal trafodaethau heddychlon ond agored.

Buom yn trafod gyda'r gwersyll, oedd yn broses a hwyluswyd gan Undeb y Myfyrwyr, ac a arweiniodd at ddod â’r gwersyll i ben yn wirfoddol ym mis Gorffennaf. Rydym eisiau bod yn onest a nodi nad ydym bellach mewn trafodaethau gyda’r grŵp yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau mewn protestiadau ac ar-lein, lle cafwyd ymddygiad annerbyniol tuag at aelodau o’n cymuned, yn enwedig staff rheng flaen.

Ym mis Gorffennaf, cytunom i gyfres o ymrwymiadau a oedd, yn ein barn ni, o fudd i bob aelod o’n cymuned, ac y gallem eu cyflawni wrth amddiffyn rhyddid barn a rhyddid academaidd. Roeddem wedi datgan yn glir y byddem yn cyflawni’r ymrwymiadau hyn, ac rydym wedi bod yn gwneud cynnydd arnynt dros yr haf ac ers hynny.

Hyd yn hyn, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • cyhoeddi daliadau buddsoddi'r brifysgol. Roeddem eisoes wedi cadarnhau nad oedd y Brifysgol yn buddsoddi’n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol yn unrhyw un o'r cwmnïau a restrwyd gan y gwersyll, nac yn buddsoddi’n anuniongyrchol nac yn uniongyrchol yn unrhyw un o’r cwmnïau yng Nghronfa Ddata'r Cenhedloedd Unedig yn unol â Phenderfyniad 31/36 y Cyngor Hawliau Dynol, a ddiweddarwyd ar 30 Mehefin 2023. Nid ydym yn buddsoddi yn nyled sofran Israel.
  • cadarnhawyd nad yw’r Brifysgol wedi derbyn unrhyw roddion dienw gan sefydliadau yn ystod y deng mlynedd diwethaf o leiaf, a bod yr holl roddion gan sefydliadau i’w gweld ar gofrestr y rhoddwyr.
  • dyblu nifer yr ysgoloriaethau sydd ar gael i geiswyr lloches o 6 i 12
  • cytuno i groesawu academydd sydd wedi'i ddadleoli o Gaza, â chytundeb yr Ymgyrch dros Academyddion sydd mewn Perygl (CARA)
  • arwyddo Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda Phrifysgol An-Najah a Phrifysgol Arabaidd-Americanaidd Palestina, ac ymuno â menter TESI i gefnogi’r gwaith o ailadeiladu’r sector addysg ym Mhalestina
  • sôn am y ffyrdd y gall pob aelod o staff a myfyriwr yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro, neu gan ddigwyddiadau eraill ledled y byd, gael cymorth
  • datblygu sesiynau galw heibio ar les a chwnsela sy’n sensitif yn ddiwylliannol er mwyn cefnogi myfyrwyr

Ym mis Rhagfyr, byddwn yn ymuno â phrifysgolion eraill o’r Grŵp Russell yn Glasgow i ddatblygu cynlluniau ar y cyd i gefnogi’r gwaith o ailadeiladu’r sector Addysg Uwch yn Gaza pan fydd yr amser yn iawn.

Mae Pwyllgor Ymchwil y Brifysgol bellach wedi cadarnhau egwyddorion partneriaethau ymchwil; rydym hefyd wrthi’n drafftio egwyddorion ehangach ar gyfer creu partneriaethau, cydweithio a chyllid.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i wneud y canlynol:

  • adolygu Côd Moeseg Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol, a fyddai'n cynnwys glynu at egwyddorion y Panel Cynghori ar Gyllid

Megis dechrau yw’r gwaith o ystyried y materion dyrys hyn i Brifysgol Caerdydd. Er bod yma staff a myfyrwyr a fyddai’n hoffi inni dorri unrhyw gysylltiad â busnesau sy’n ymwneud â’r diwydiant arfau, mae eraill yn poeni y byddai hyn yn gosod cynsail a fyddai’n amharu ar ryddid academaidd. Yn yr un modd, er bod rhai o’n haelodau am inni wahardd cwmnïau sy’n ymwneud â’r diwydiant arfau o’r campws, mae eraill yn teimlo bod gan fyfyrwyr yr hawl i ddewis, ac y dylent allu gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Bydd angen cynnal deialog a thrafodaeth ehangach cyn cyrraedd sefyllfa sy’n gweithio i gymuned Prifysgol Caerdydd.

Rydym yn ymrwymo i barhau i ymgysylltu â myfyrwyr, drwy Undeb y Myfyrwyr, a gyda staff ar ddatblygu a llunio'r adolygiadau i’r diffiniadau o arfau, a'r Côd Moeseg. Os oes gennych unrhyw syniadau neu os hoffech gyfrannu at yr adolygiad, mae croeso i chi gysylltu â mi (SandersonP@caerdydd.ac.uk) – rydym yn arbennig o awyddus i ddefnyddio’r arbenigedd sydd gennym ym Mhrifysgol Caerdydd.

Deunydd Darllen Ychwanegol:

Rhannu’r stori hon