Gostyngiad i gyn-fyfyrwyr wedi'i estyn i 2025
12 Tachwedd 2024
Mae gostyngiad i gyn-fyfyrwyr yn ei ôl ar gyfer mis Medi 2025, gan gynnig gostyngiad o 20% ar ffioedd dysgu i fyfyrwyr meistr.
Mae'r gostyngiad parhaol mewn ffioedd dysgu ar gyfer graddau meistr yn rhoi cyfle i raddedigion Prifysgol Caerdydd barhau â'u haddysg am brisiau is o lawer.
Gall cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd dderbyn gostyngiad oddi ar ffioedd dysgu ar raglenni meistr cymwys sy’n dechrau yn 2025. Mae’r gostyngiad i gyn-fyfyrwyr yn cynnig gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu i fyfyrwyr cartref, myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr Ewropeaidd.
Yn ogystal â dod â’r gostyngiad i gyn-fyfyrwyr yn ei ôl, rydyn ni hefyd yn cyflwyno dyddiadau dechrau ym mis Ionawr ar gyfer rhaglenni Meistr dethol.
Bydd hyn yn rhoi rhagor o hyblygrwydd i fyfyrwyr yn eu hastudiaethau, a’u helpu i addasu eu haddysg i gyd-fynd â'u hymrwymiadau personol a phroffesiynol.
Y cyrsiau sy’n dechrau ym mis Ionawr yw:
Mae'r gostyngiad i gyn-fyfyrwyr ar gael i fyfyrwyr graddedig Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau gradd Meistr gymwys ym mis Ionawr neu fis Medi 2025. Rhagor o wybodaeth am y gostyngiad a'r meini prawf o ran bod yn gymwys.