Canolfan y Gyfraith a Chrefydd yn bresennol yn y Jiwbilî Colocwiwm yn Rhufain
30 Hydref 2024
Teithiodd y tîm Anglicanaidd yng Nghanolfan y Gyfraith a Chrefydd i Rufain ym mis Medi eleni i fynd i’r digwyddiad dathlu pum mlynedd ar hugain ers sefydlu Colocwiwm y Cyfreithwyr Eglwysig Catholig Rhufeinaidd ac Anglicanaidd.
Yn rhan o’r digwyddiad oedd yr Athro Norman Doe KC FBA, y Parch. Russell Dewhurst, a’r Parch. Stephen Coleman, oll o Ganolfan y Gyfraith a Chrefydd. Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan y Brifysgol Archesgobol Angelicum Sant Thomas Aquinas yn Rhufain, lle rhoddwyd sylw i gyfraith eglwysig a’r cyflwr o fod yn synodaidd.
Mae’r syniad o fod yn synodaidd yn golygu adeiladu cymuned o fewn yr Eglwys lle mae pawb yn rhannu eu profiadau a'u dealltwriaeth. Ystyrir y cyflwr o fod yn synodaidd yn un sy’n holl bwysig er mwyn llunio dyfodol yr Eglwys mewn byd sy'n newid yn gyflym. Yn y Colocwiwm, trafodwyd sut mae’r cyflwr o ‘fod yn synodaidd’ yn bresennol yng nghyfreithiau’r ddau gymundeb ar lefel ryngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, gan arwain at Ddatganiad Cytunedig o’r Egwyddorion Cyfraith Eglwysig ar Fod yn Synodaidd.
Ar noson gynta’r digwyddiad, ym mhresenoldeb Cardinal Kurt Koch (Prif Ynad y Gynulleidfa er Hyrwyddo Undod Cristnogol), fe wnaeth yr Athro Doe draddodi darlith gyhoeddus o'r enw 'Canon Law, Ecumenism, and Synodality' a fanylodd ar y cysyniad o fod yn synodaidd yn y Datganiad o’r Egwyddorion Cyfraith Gristnogol (Rhufain 2016) a’r deddfau a geir mewn 10 teulu Cristnogol ledled y byd. Ymatebodd y Chwaer Nathalie Becquart (Is-Ysgrifennydd Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol Synod yr Esgobion) gan roi cipolwg ar werth posibl o gynnwys cyfraith eglwysig gymharol yn y ddadl Gatholig ar fod yn synodaidd.
I ddathlu jiwbilî'r Colocwiwm, roedd perfformiad o ddrama gan yr Athro Doe sef Thrice to Rome, a hynny yn y Palazzo della Cancelleria, sy'n gartref i dri o’r llysoedd cyfraith uchaf yn yr Eglwys Gatholig: Penitentiary; Signatura; a Roman Rota. Mae’r ‘ddrama gymunedol’ hon yn adrodd stori Gerallt Gymro (d. 1223) a’i dri ymddangosiad gerbron Llys Pabaidd Gwirionyn III (1200-3) i gadarnhau etholiad Gerallt yn Esgob Tyddewi, yn ogystal â statws archesgobion Tyddewi a’i rhyddid rhag Caergaint. Dyma oedd ei chweched perfformiad. Ymhlith y cast oedd aelodau’r Colocwiwm, gan gynnwys Monsignor David-Maria Jaeger OFM (Archwilydd Rhaglaw'r Rota Rhufeinig) a chwaraeodd rôl Gwirionyn III. Cafwyd hefyd ginio jiwbilî, a gynhaliwyd yn hael gan Christopher Trott, Llysgennad Prydain i’r Babaeth, yn y Breswylfa Lysgenhadol gerllaw’r Fatican.
Yn y llun o'r chwith i'r dde mae: Robert Ombres OP, Blackfriars, Rhydychen (Eiriolwr Gerald); Helen Costigane SHCJ, Prifysgol St Mary’s, Llundain (Bettina, Athro'r Gyfraith Eglwysig yn Padua); Ben Earl OP, Procuradur Cyffredinol, Urdd y Pregethwyr (Buongiovanni, Clerc Archesgob Caergaint); Stephen Coleman, Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, Caerdydd (John of Tynemouth, Eiriolwr Caergaint); Monsignor David Jaeger OFM, Archwiliwr Prelad y Rota Rufeinig (Pab Innocent III); Luke Beckett OSB, Abaty Ampleforth (Reginald Foliot, Canon Tyddewi); Mark Hill CB, Canghellor Esgobaethau Chichester, Leeds, a Gibraltar yn Ewrop (Cardinal Hugolinus); Edward Dobson, Dirprwy Gynghorydd Cyfreithiol, Church House, San Steffan (Cantor); Morag Ellis CB, Deon y Bwâu ac Archwiliwr (Novella, Athro’r Gyfraith Eglwysig yn Bologna); Russell Dewhurst, Cadeirydd, Rhwydwaith Cynghorwyr Cyfreithiol y Cymundeb Anglicanaidd (William Lyndwood, Esgob Tyddewi); Francis Bushell, Cyfarwyddwr Côr Siambr Campanile (Cantor); Norman Doe CB, Athro’r Gyfraith, Prifysgol Caerdydd (Gerallt Gymro). Tynnwyd y llun gan y Parchg Tony Bushell.