Astudiaeth yn datgelu tuedd ar sail cyfoeth wrth wneud penderfyniadau grŵp ar brosiectau cyhoeddus
11 Tachwedd 2024
Datgelodd astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y Journal of Public Economics sut mae cyfoeth yn llywio penderfyniadau cyhoeddus, yn enwedig wrth ariannu prosiectau cymdeithasol ar y cyd neu fentrau elusennol.
Mae’r astudiaeth, gan Dr Tommaso Reggiani o Ysgol Busnes Caerdydd a’i gyd-awduron, wedi datgelu ‘tuedd ar sail cyfoeth,’ sy’n dangos, hyd yn oed heb ddylanwadu gwleidyddol, fod unigolion cyfoethocach yn aml yn cael dylanwad anghymesur ar ba brosiectau sy’n symud ymlaen, waeth beth fo dewis cyfunol y grŵp.
Mae'r ymchwil yn amlygu bod aelodau cyfoethog yn gosod yr agenda yn effeithiol trwy addo cyfraniadau mawr at brosiectau y maen nhw’n eu ffafrio, gan arwain aelodau eraill o'r grŵp i gytuno â'r dewisiadau hyn yn aml i sicrhau llwyddiant prosiectau. Mae'r ddeinameg hon yn arbennig o arwyddocaol mewn mentrau nwyddau cyhoeddus, megis prosiectau cymunedol neu ymgyrchoedd elusennol, lle mae consensws yn hanfodol.
Canfyddodd yr astudiaeth hefyd fod unigolion cyfoethocach yn debygol o gyfrannu mwy yn ariannol, sy’n rhannol leihau’r baich ar aelodau llai cyfoethog. Gall rhannu costau yn wirfoddol fel hyn helpu i gydbwyso'r bwlch o safbwynt dylanwad, ond nid yw'n mynd i'r afael yn llawn â'r duedd sylfaenol wrth wneud penderfyniadau sy'n rhoi llai o bwyslais ar ddewisiadau aelodau incwm is y grŵp.
Mewn arbrofion labordy, roedd grwpiau’n troi’n gyson at brosiectau a oedd yn cyfateb i ddewisiadau aelodau cyfoethog, gan ddangos er y gall cymorth ariannol gan y cyfoethog liniaru anghydraddoldeb, does neb yn cwestiynu eu pŵer i wneud penderfyniadau.
Goblygiadau ar gyfer polisïau a nwyddau cyhoeddus
Mae’r ymchwil hon yn cynnig gwell dealltwriaeth er mwyn sicrhau bod llunwyr polisïau, sefydliadau elusennol a llwyfannau cyllido torfol yn gwneud penderfyniadau tecach.
Gallai llunwyr polisïau ystyried ffyrdd o sicrhau bod buddiannau unigolion incwm is yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn penderfyniadau ar y cyd, yn enwedig wrth ddewis pa nwyddau cyhoeddus i’w hariannu.
Gallai sefydliadau elusennol ystyried ffyrdd o ddemocrateiddio eu prosesau o wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod lleisiau rhoddwyr incwm is yn cael eu clywed ochr yn ochr â lleisiau cymwynaswyr cyfoethocach.
Gallai llwyfannau cyllido torfol ystyried mecanweithiau a fyddai’n gwneud y sefyllfa’n fwy cyfartal, gan sicrhau bod prosiectau’n cael eu dewis yn seiliedig ar fudd cymunedol ehangach yn hytrach na phŵer ariannol ychydig o bobl yn unig.
Darllen y papur yn llawn: Coordinated selection of collective action: Wealthy-interest bias and inequality
Cyd-awduron: Corazzini L. , Cotton C., Longo E., Reggiani T.